Penderfyniadau

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

24/02/2016 - Debate on The Mental Health (Wales) Measure 2010 - Duty to Review - Final Report

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5971 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

2. Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.

3. Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


05/03/2015 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Dechreuodd yr eitem am 15.08

NDM5709 David Rees (Aberafan)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2015.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Chwefror 2015.

The motion was agreed in accordance with Standing Order 12.36.