Penderfyniadau

P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

14/07/2011 - P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         Ddisgwyl am ymateb y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.

·         Ysgrifennu at Drenau Arriva Cymru i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

·         Ysgrifennu at Passenger Focus i ofyn am ei farn am y ddeiseb.