Ymgynghoriad

Tlodi Tanwydd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig ymchwiliad i dlodi tanwydd yng Nghymru. Gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau ar y canlynol:

  • graddfa ac effeithiau tlodi tanwydd yng Nghymru;
  • pam na lwyddodd Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged statudol i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018;
  • sut mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma wedi helpu i leihau tlodi tanwydd, yn arbennig, effaith y Rhaglen Cartrefi Clyd (sy’n cynnwys Arbed a Nyth) a Safon Ansawdd Tai Cymru;
  • sut y dylai strategaeth olynol Llywodraeth Cymru i’r strategaeth tlodi tanwydd (a fydd yn destun ymgynghoriad yn yr hydref 2019) fod yn wahanol i’w strategaeth yn 2010;
  • pa gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cartrefi newydd, yn ogystal â chartrefi presennol, yn effeithlon iawn o ran ynni i’w hatal rhag achosi tlodi tanwydd yn y dyfodol.

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 01 Tachwedd 2019.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Er eglurder, nid oes ffurflen ddynodedig ar gyfer cyflwyniadau. I'r rhai a hoffai gyflwyno eu hymateb yn electronig, anfonwch eich cyflwyniad yng nghorff e-bost neu fel atodiad i: SeneddNHAMG@Senedd.Cymru

I'r rhai a hoffai gyflwyno eu barn ar ffurf copi caled, gellir cyfeirio llythyrau fel a ganlyn:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Senedd Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1SN.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565