Ymgynghoriad
Ymchwiliad i Lobïo
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 1 Rhagfyr 2016 a Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 1 Comisiwn Etholiadol PDF 49 KB Gweld fel HTML (2) 13 KB
- 2 Mark Isherwood (Saesneg yn unig) PDF 66 KB Gweld fel HTML (3) 15 KB
- 3 CLA Cymru (Saesneg yn unig) PDF 163 KB Gweld fel HTML (4) 29 KB
- 4 Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon (Saesneg yn unig) PDF 41 KB Gweld fel HTML (5) 7 KB
- 5 Cymdeithas Ymgynghorwyr Gwleidyddol Proffesiynol (APPC) (Saesneg yn unig) PDF 71 KB Gweld fel HTML (6) 20 KB
- 6 Cytûn PDF 55 KB Gweld fel HTML (7) 24 KB
- 7 Neil McEvoy AM (Saesneg yn unig) PDF 142 KB Gweld fel HTML (8) 39 KB
- 8 Plaid Cymru (Saesneg yn unig) PDF 21 KB Gweld fel HTML (9) 6 KB
- 9 Cancer Research UK (Saesneg yn unig) PDF 49 KB Gweld fel HTML (10) 11 KB
- 10 Deryn Consulting Ltd (Saesneg yn unig) PDF 81 KB Gweld fel HTML (11) 32 KB
- 11 Unlock Democracy a Spinwatch (Saesneg yn unig) PDF 264 KB Gweld fel HTML (12) 56 KB
- 12 Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (Saesneg yn unig) PDF 44 KB Gweld fel HTML (13) 9 KB
- 13 BMA Cymru (Saesneg yn unig) PDF 50 KB Gweld fel HTML (14) 12 KB
- 14 CGGC (Saesneg yn unig) PDF 62 KB Gweld fel HTML (15) 26 KB
- 15 Invicta Public Affairs (Saesneg yn unig) PDF 50 KB Gweld fel HTML (16) 12 KB
- 16 Public Affairs Cymru (Saesneg yn unig) PDF 106 KB Gweld fel HTML (17) 53 KB
- 17 Cymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu (PRCA) (Saesneg yn unig) PDF 90 KB Gweld fel HTML (18) 34 KB
- 18 Positif (Saesneg yn unig) PDF 62 KB Gweld fel HTML (19) 16 KB
- 19 RSPCA (Saesneg yn unig) PDF 64 KB Gweld fel HTML (20) 17 KB
- 20 Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol PDF 147 KB Gweld fel HTML (21) 31 KB
- 21 Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol (Saesneg yn unig) PDF 48 KB Gweld fel HTML (22) 10 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i'r trefniadau presennol o
ran lobïo yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r trefniadau wedi bodoli ers
2013, ac ymrwymwyd i adolygu'r trefniadau hyn yn gyson i sicrhau eu bod yn
parhau i fod yn addas yng nghyd-destun proses ddeinamig datganoli. Mae'r
ymchwiliad hwn yn arbennig o amserol o ystyried cyflwyno deddfwriaeth yn San
Steffan a'r Alban. Bwriad ymchwiliad y Pwyllgor yw penderfynu a ydyw’n glir
beth y mae’r dinesydd eisiau ei wybod o ran lobïo ac os felly, a yw’r
trefniadau yng Nghymru ar hyn o bryd yn darparu digon o wybodaeth, hygyrchedd a
thryloywder?
Er mwyn cynorthwyo â'i ymchwiliad,
byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar a yw trefniadau presennol y
Cynulliad o ran lobïo yn ddigon cadarn ac addas i'r diben ar gyfer y Pumed
Cynulliad, ac yn benodol:
- A oes angen newid?
- Beth mae'r term 'lobïo' yn ei olygu i chi?
- Sut mae lobïo'n cael ei reoleiddio ar hyn o bryd?
- A ydych yn ystyried eich hun yn lobïwr? Sut mae
lobïo'n cael ei reoleiddio yn eich sector chi ar hyn o bryd? Hynny yw, er
enghraifft, os ydych yn fusnes preifat, yn y trydydd sector neu'n
sefydliad proffesiynol.
- A ydych wedi cael unrhyw broblemau â'r trefniadau
presennol?
- A oes unrhyw feysydd yr ydych yn ystyried nad
ydynt yn cael eu rheoleiddio yn y maes hwn sy'n rhoi atebolrwydd ac enw da
llywodraethu yng Nghymru mewn perygl?
- Beth ydych chi'n ei gredu fyddai effaith cyflwyno
trefniadau newydd o ran lobïo?
Gwahoddiad i gyfrannu at yr
ymchwiliad
Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion
yn Gymraeg neu'n Saesneg.
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy
na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth
ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau i dystion
sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth,
anfonwch gopi electronig, (nid ar ffurf dogfen PDF, yn ddelfrydol) i SeneddSafonau@Cynulliad.Cymru
Dylai unrhyw sylwadau ddod i law
erbyn 31 Ionawr 2017. Efallai na
fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Datgelu gwybodaeth
Mae polisi'r Cynulliad ynghylch
datgelu gwybodaeth ar gael yma. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus
cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc
(0300 200 6565).
Dogfennau ategol