Ymgynghoriad

Gwastraff ac adnoddau

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Wastraff ac Adnoddau.   

Diben yr ymchwiliad yw asesu effeithiolrwydd Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP Cymru) wrth i'r sefydliad geisio cyflawni ei amcanion.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • Cyfraniad WRAP i ddatblygiad seilwaith ailgylchu ac ailbrosesu yng Nghymru ac i ddatblygu, sefydlogi a hybu marchnadoedd ar gyfer deunyddiau wedi'u hailgylchu/hadfer, ac ailddefnyddio adnoddau.
  • Pa gamau gweithredu y mae WRAP wedi eu cymryd i fynd i'r afael â phecynnu a gwastraff bwyd yng Nghymru.
  • Y fenter 'Ailgylchu ar hyd y lle' a sut bydd yn cyfrannu at amcanion Tuag at Ddyfodol Diwastraff.
  • Gwaith WRAP yn cefnogi cwmnïau sy'n gweithio yn y sector treulio anaerobig a chompostio.
  • Faint o awdurdodau lleol sy'n dilyn y Rhaglen Newid Gydweithredol i Gymru, ac a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi awdurdodau lleol.
  • Sut y mae WRAP Cymru yn gweithio o fewn yr agenda atal gwastraff ehangach a bennwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Cynllun Atal Gwastraff drafft. 
  • Effaith debygol Defra yn torri cyllid WRAP ar lefel y DU ar gapasiti WRAP Cymru i gyflawni ei hamcanion.
  • Effeithiolrwydd y cyngor y mae WRAP yn ei ddarparu, sut y mae'n rhannu arfer da, a sut y mae'n cyfathrebu ac yn cysylltu â chwsmeriaid.   

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Naomi Stocks