Ymgynghoriad

Cynnydd o ran cydweithio mewn llywodraeth leol

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cynnal ymchwiliad byr i'r cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol. Er mwyn helpu gyda’i ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.

 

Mae'r Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad hwn yng nghyd-destun:

 

  • polisi Llywodraeth Cymru dros sawl blwyddyn i annog rhagor o gydweithio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus;
  • y gwaith presennol o weithredu Cytundeb Simpson; ac
  • adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus y mae ei ddisgwyl cyn diwedd 2013.
  • Pwrpas yr ymchwiliad yw edrych ar i ba raddau y mae llywodraeth leol yn cydweithio a gwerthuso llwyddiant y polisi hwn o ran arbedion a darparu gwasanaethau.
  • ganlyniad i gyfyngiadau amser, bydd hwn yn ymchwiliad byr, gan gasglu barn a phrofiadau ffigyrau a sefydliadau allweddol mewn llywodraeth leol yng Nghymru ar y pwnc hwn.

Dogfennau ategol