Ymgynghoriad
Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol - Drafft ar gyfer ymgynghori
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 1 Ebrill 2022 a Dydd Sul, 24 Ebrill 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Yn unol â Deddf
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, mae’n ofynnol i
Gomisiwn y Senedd fabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi’r camau
y mae’n bwriadu eu cymryd i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan adran 2 o’r
Ddeddf, ac i adolygu ei Gynllun Ieithoedd Swyddogol ar ôl pob etholiad.
Mae’n ofynnol i
Gomisiwn y Senedd ymgynghori ar gynnwys y cynllun yn dilyn yr adolygiad.
Yn ei gyfarfod ar
31 Ionawr 2022, cytunodd Comisiwn y Senedd ar gynnwys y cynllun drafft ar gyfer
ymgynghori.
Hoffem glywed
barn cyfranddeiliaid ar y cynllun
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Comisiwn yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi
Comisiwn y Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Comisiwn.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN