Ymgynghoriad
Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: ymgynghoriad ar ran 2 o’r adolygiad a’r newidiadau i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019 a Dydd Gwener, 11 Hydref 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Yn
ei gyfarfod ar 4 Gorffennaf, cynhaliodd y
Bwrdd Taliadau ei drydedd sesiwn i drafod ail ran yr adolygiad o’r
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r rhan hon o’r adolygiad yn
canolbwyntio ar benodau’r Penderfyniad sy’n ymdrin â’r gefnogaeth a roddir i
Aelodau’r Cynulliad a’r pleidiau gwleidyddol.
Mae’r
Bwrdd wedi nodi nifer o feysydd yn y penodau hyn lle mae o’r farn y gallai fod
angen gwneud newidiadau. Mae’r Bwrdd hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion i
newid rhai o reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau. Ceir manylion llawn am gynigion
y Bwrdd yn y ddogfen ymgynghori.
Cylch
gorchwyl
Yn
ei adroddiad strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd Taliadau ei
ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn
etholiad cyffredinol Cymru yn 2021. Mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl
a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:
- addasrwydd lefel
y gefnogaeth a ddarperir yn y Penderfyniad;
- hyblygrwydd,
rhagnodoldeb a hygyrchedd y darpariaethau;
- gonestrwydd,
atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael.
Darparu
tystiolaeth ysgrifenedig
Mae
gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn
unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae’r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi
yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n
unig.
Mae’r
Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu
hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu
gwybodaeth
Gofynnwn
ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio’ch
gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd. Nodir hyn yn yr atodiad i’r
llythyr ymgynghori.
Y
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Gwener 11 Hydref 2019. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw
ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Dogfennau ategol