Ymgynghoriad
Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymgynghoriad ar rhan un o’r adolygiad
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 1 Ebrill 2019 a Dydd Gwener, 7 Mehefin 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Yn ei
gyfarfod ar 21 Mawrth, cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei drydedd ystyriaeth o ran gyntaf ei adolygiad o'r
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae'r rhan hon yn canolbwyntio ar y
penodau yn y Penderfyniad ynghylch Gwariant ar Lety Preswyl, Siwrneiau'r
Aelodau a Chostau Swyddfa.
Mae'r
Bwrdd wedi nodi nifer o feysydd yn y penodau hyn lle mae o'r farn y gall fod
angen newidiadau i'r darpariaethau presennol. Ceir manylion llawn am gynigion y
Bwrdd yn y ddogfen
ymgynghori.
Cylch
gorchwyl
Yn ei
adroddiad ar y strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd Taliadau ei
ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn
etholiad cyffredinol Cymru yn 2021. Mmae'r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch
gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:
-
addasrwydd lefel y gefnogaeth
a ddarperir yn y Penderfyniad;
-
hyblygrwydd, rhagnodoldeb a
hygyrchedd y darpariaethau;
-
gonestrwydd, atebolrwydd,
rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael.
Darparu
tystiolaeth ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y
Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Mae'r
Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu
hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu
gwybodaeth
Sicrhewch
eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio'ch gwybodaeth cyn
cyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd. Nodir hyn yn yr atodiad i’r llythyr ymgynghori.
Y dyddiad
cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau yw dydd Gwener 7 Mehefin 2019. Mae’n
bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565