Ymgynghoriad
Bil Awtistiaeth (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 20 Gorffennaf 2018 a Dydd Gwener, 14 Medi 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- A01 - Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- A02 - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (Saesneg yn unig)
PDF 198 KB Gweld fel HTML (2) 23 KB
- A03 - Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 128 KB
- A04 - Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)
PDF 135 KB Gweld fel HTML (4) 12 KB
- A05 - Coleg Brenhinol Pediatreg a Iechyd Plant (Saesneg yn unig)
PDF 172 KB
- A06 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig)
PDF 210 KB Gweld fel HTML (6) 79 KB
- A07 - Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 216 KB
- A08 - Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent (Saesneg yn unig)
PDF 202 KB
- A09 - Cymuned Ymarfer ar gyfer Diagnosis Oedolion ac Ymarferwyr Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig (Saesneg yn unig)
PDF 452 KB
- A10 - Cyngor Tref y Bari (Saesneg yn unig)
PDF 65 KB
- A11 - Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf (Saesneg yn unig)
PDF 138 KB
- A12 - Ludlow Street Healthcare
PDF 571 KB
- A13 - Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 261 KB Gweld fel HTML (13) 33 KB
- A14 - Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (Saesneg yn unig)
PDF 226 KB
- A15 - Cyngor Cymuned Mochdre gyda Phenstrywaid (Saesneg yn unig)
PDF 59 KB
- A16 - Comisiynydd Plant Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 524 KB
- A17 - Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 247 KB
- A18 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 430 KB
- A19 - Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 62 KB
- A20 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
PDF 334 KB
- A21 - Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig)
PDF 580 KB
- A22 - Bwrdd Rhaglen Drfodol Anabledd, Cyngor Caerdydd (Saesneg yn unig)
PDF 294 KB Gweld fel HTML (22) 132 KB
- A23 - Cymdeithas Seicolegol Prydain (Saesneg yn unig)
PDF 386 KB
- A24 - ColegauCymru (Saesneg yn unig)
PDF 778 KB
- A25 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
PDF 424 KB Gweld fel HTML (25) 73 KB
- A26 - Dr Dawn Wimpory (Saesneg yn unig)
PDF 268 KB
- A27 - Rheolwyr y Gwasanaethau Anableddau a Phobl Agored i Niwed, Adran Gofal Cymdeithasol Conwy (Saesneg yn unig)
PDF 256 KB Gweld fel HTML (27) 9 KB
- A28 - Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg (Saesneg yn unig)
PDF 65 KB
- A29 - Dr Elin Walker-Jones
PDF 388 KB Gweld fel HTML (29) 70 KB
- A30 - Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (Saesneg yn unig)
PDF 131 KB
- A31 - Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (Saesneg yn unig)
PDF 208 KB
- A32 - UCAC - Ymateb Cyhoeddus
PDF 668 KB
- Cyfyngedig View reasons restricted
- A33 - Barnardo's Cymru
PDF 339 KB
- A34 - Dr Duncan Holtom (Saesneg yn unig)
PDF 224 KB Gweld fel HTML (35) 34 KB
- A35 - Colegau Brenhinol a Chydffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- A36 - David Malins
PDF 137 KB Gweld fel HTML (37) 26 KB
- Ymchwiliad i Fil Awtistiaeth (Cymru) - Crynodeb o Grwpiau Ffocws
PDF 247 KB
- Ymchwiliad i Fil Awtistiaeth (Cymru) – Crynodeb o’r trafodaethau bwrdd crwn
PDF 570 KB Gweld fel HTML (39) 108 KB
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ymgymryd ag ymchwiliad i egwyddorion
cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru). Ceir rhagor o fanylion am y Bil a'r
Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef ar dudalen y Bil.
Cylch gorchwyl
I'w ystyried:
- egwyddorion cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) a'r graddau y bydd
yn darparu ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion sydd ag Anhwylder
ar y Sbectrwm
Awtistiaeth (ASD) yng Nghymru a chyflawni’r nod o ddiogelu a hyrwyddo eu
hawliau;
- unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn
ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
- a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r
Bil;
- goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2
o’r Memorandwm Esboniadol);
- priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir
ym Mhennod 6 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol).
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae'r Pwyllgor yn
croesawu tystiolaeth ar y cylch gorchwyl a'r graddau y bydd y Bil yn cyflawni’r
nod o ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant ac oedolion ag Anhwylder ar y Sbectrwm
Awtistiaeth (ASD) yng Nghymru.
Dylai unrhyw dystiolaeth
ddod i law erbyn 14 Medi 2018.
Os ydych am gyflwyno
tystiolaeth, anfonwch gopi electronig i seneddiechyd@cynulliad.cymru.
Byddwn
hefyd yn cynnal grwpiau ffocws dros yr haf i bobl sydd ag ASD a'u teuluoedd roi
eu barn i ni am y Bil. Os hoffech gymryd rhan mewn grŵp ffocws, cysylltwch
â Sally.Jones11@cynlluiad.cymru am ragor o wybodaeth.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan
Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i
ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi
neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn
disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn
saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565