Ymgynghoriad
Tai carbon isel: yr her
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 28 Medi 2017 a Dydd Iau, 23 Tachwedd 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- LCH 01 ARUP (Saesneg yn unig) PDF 118 KB Gweld fel HTML (1) 8 KB
- LCH 02 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 35 KB Gweld fel HTML (2) 3 KB
- LCH 03 Centrica (Saesneg yn unig) PDF 935 KB
- LCH 04 Awdur ac Ymgynghorydd ar Gynaliadwyedd - David Thorpe (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- LCH 05 Rhwydwaith Calon Cymru PDF 919 KB
- LCH 06 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Saesneg yn unig) PDF 121 KB Gweld fel HTML (6) 9 KB
- LCH 07 Sero Homes Limited PDF 608 KB
- LCH 08 Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Saesneg yn unig) PDF 229 KB Gweld fel HTML (8) 55 KB
- LCH 09 Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru a Design Circle (Saesneg yn unig) PDF 568 KB
- LCH 10 Elwy Working Woods (Saesneg yn unig) PDF 44 KB Gweld fel HTML (10) 8 KB
- LCH 11 Woodknowledge Wales (Saesneg yn unig) PDF 141 KB Gweld fel HTML (11) 17 KB
- LCH 12 Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi Cymru (Saesneg yn unig) PDF 686 KB
- LCH 13 Ymddiriedolaeth Passivhaus (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- LCH 14 Ofgem (Saesneg yn unig) PDF 145 KB Gweld fel HTML (14) 83 KB
- LCH 15 Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru PDF 216 KB Gweld fel HTML (15) 23 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- LCH 16 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 118 KB
- LCH 17 Modern Masonry Alliance (Saesneg yn unig) PDF 646 KB
- LCH 18 Unigolyn - Dr Joanne Patterson (Saesneg yn unig) PDF 331 KB Gweld fel HTML (19) 25 KB
- LCH 19 SPECIFIC (Saesneg yn unig) PDF 6 MB
- LCH 20 Calor (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- LCH 21 Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 786 KB
- LCH 22 Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- LCH 23 Sefydliad y Peirianwyr Sifil Cymru (Saesneg yn unig) PDF 834 KB
- LCH 24 Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu 2018 (CITB Cymru Wales) (Saesneg yn unig) PDF 688 KB
- LCH 25 Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 508 KB
Diben yr ymgynghoriad
Cylch gorchwyl
Asesu'r hyn y mae
Llywodraeth Cymru wedi'i gyflawni hyd yma o safbwynt tai carbon isel ac
ystyried yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn llwyddo
yn ei hymrwymiadau i gyflawni targedau o ran arbed ynni a lleihau allyriadau.
Byddwn yn edrych ar:
- Y cyfraniad y gall tai ei wneud wrth i Gymru bontio i economi rhad ar
garbon, gan gynnwys yr effeithiau cadarnhaol posibl ar allyriadau nwyon tŷ
gwydr;
- Datblygiad y dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer tai sy'n defnyddio
ynni'n effeithlon iawn, ac i ba raddau y mae'r dechnoleg honno ar gael;
- Y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y stoc dai bresennol yn
defnyddio ynni mor effeithlon ag y bo modd;
- A yw'n bosibl ac yn ymarferol darparu tai fforddiadwy ar raddfa fawr
yng Nghymru a'r rheiny'n effeithlon iawn o ran carbon ac yn cynhyrchu mwy
o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio ac, os felly, sut y gellir cyflawni
hyn;
- Y ffactorau sy'n rhwystr rhag cyflwyno newid trawsnewidiol ym maes
adeiladu tai yng Nghymru;
- Rôl Ofgem a'r grid cenedlaethol o ran galluogi'r grid i esblygu i
ddarparu ar gyfer mathau newydd o dai, a'r heriau a gyflwynir wrth i ynni
gael ei gyflenwi o ffynonellau wedi'u datganoli;
- A oes gan Gymru'r sgiliau angenrheidiol i hwyluso a galluogi newid yn
y sector tai;
- Y newidiadau y mae angen eu gwneud i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru er
mwyn symud yn gyflymach tuag at safonau ynni lle y cynhyrchir bron ddim
carbon, a thu hwnt i hynny;
- Sut y gellir cynllunio a siapio cymunedau i ddefnyddio ynni'n fwy
effeithlon a chynhyrchu llai o garbon (gan gynnwys enghreifftiau o arfer
da yng Nghymru a thu hwnt).
Y
cefndir
Mae gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Amgylchedd
a Materion Gwledig gylch gorchwyl i graffu ar wariant Llywodraeth Cymru ar
newid yn yr hinsawdd; ynni; rheoli adnoddau naturiol; cynllunio; lles
anifeiliaid ac amaethyddiaeth; ac ar y modd y mae'n gweithredu polisi yn y
meysydd hyn. Cynhaliodd y Pwyllgor a'n rhagflaenodd yn y Pedwerydd Cynulliad
ymchwiliad i 'Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru'. Gwnaeth nifer o argymhellion yn
ymwneud â thai a rheoliadau adeiladu, gan gynnwys y ddau a ganlyn:
- Rhaid i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r Rheoliadau Adeiladu ar frys i
sicrhau bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni 'agos at sero'.
- Rhaid i Gymru, ar ôl cwblhau'r treial eang llwyddiannus o gartrefi o
fath SOLCER (arbed carbon a chynhyrchu mwy o ynni nag a ddefnyddir),
ddechrau ymestyn ei gofynion effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi newydd
y tu hwnt i garbon 'agos at sero' i lefel o effeithlonrwydd lle y
cynhyrchir ynni dros ben.
Derbyniodd
Llywodraeth Cymru y ddau argymhelliad.
Hoffai'r Pwyllgor
ailedrych ar y ddau argymhelliad hyn yn benodol, a chynnal ymchwiliad â'r
bwriad o gyfrannu at ddatblygiad polisi yn y maes hwn.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod
wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor..
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565