Ymgynghoriad
Ymchwiliad i gyllid celfyddydau nad yw’n gyhoeddus
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 28 Gorffennaf 2017 a Dydd Gwener, 25 Awst 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad i gyllid celfyddydau nad
yw’n gyhoeddus.
Cefndir
Mae'r mwyafrif helaeth o
ddyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn mynd i Gyngor
Celfyddydau Cymru: £31.2 miliwn o gyllid refeniw o'r £31.7 miliwn a ddyranwyd
i'r maes hwn yng nghyllideb ddrafft 2017-18. Gwelwyd cynnydd o 3.5 y cant mewn
cyllid refeniw yn y maes hwn, mewn termau arian parod, o gymharu â'r llinell
sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2016-17. Er gwaethaf y cynnydd hwn yng nghyllid
Cyngor y Celfyddydau, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'r Cyngor “gyflymu
ei waith i helpu ei sefydliadau portffolio, a’r sector ehangach, i gynyddu’r
incwm a gynhyrchir ganddynt".
Bydd ymchwiliad y
Pwyllgor yn edrych ar lwyddiant sector y celfyddydau yng Nghymru o ran cynyddu
ei gyllid nad yw'n gyhoeddus, dosbarthu arian celfyddydau nad yw’n gyhoeddus
yng Nghymru a modelau rhyngwladol o arfer gorau y gallai Cymru ei efelychu yn
hyn o beth.
Cylch Gorchwyl:
- Effeithiolrwydd ymdrechion i gynyddu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar
gyfer y celfyddydau yng Nghymru gan gyrff gan gynnwys y Cyngor
Celfyddydau, awdurdodau lleol ac artistiaid a sefydliadau celfyddydol eu
hunain. Byddai'r cyllid hwn yn cynnwys:
- incwm a enillwyd;
- dyngarwch;
- buddsoddiad.
- Y lefel o gyllid heblaw cyllid cyhoeddus a ddosberthir yng Nghymru a
sut mae hyn yn cymharu â gweddill y DU.
- Enghreifftiau rhyngwladol o ddulliau arloesol i godi cyllid heblaw
cyllid cyhoeddus.
Cynhaliodd y Pwyllgor
ymgynghoriad cyhoeddus o 28 Gorffennaf tan 25 Awst 2017. Bydd y Pwyllgor yn
dechrau cymryd tystiolaeth lafar ar yr ymchwiliad hwn yn nhymor yr hydref.
Os hoffech drafod yr
ymholiad hwn ymhellach, cysylltwch â’r Pwyllgor: SeneddDGCH@cynulliad.cymru
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565