Ymgynghoriad
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2016 a Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2016
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 01 Civil Engineering Contractors Association (CECA Wales Cymru) (Saesneg yn unig)
PDF 43 KB Gweld fel HTML (1) 18 KB
- 02 CITB Cymru Wales (Saesneg yn unig)
PDF 41 KB Gweld fel HTML (2) 22 KB
- 03 Home Builders Federation (Saesneg yn unig)
PDF 31 KB Gweld fel HTML (3) 11 KB
- 04 Building Queensland (Saesneg yn unig)
PDF 41 KB Gweld fel HTML (4) 17 KB
- 05 Infrastructure Victoria (Saesneg yn unig)
PDF 27 KB Gweld fel HTML (5) 43 KB
- 06 Infrastructure Australia (Saesneg yn unig)
PDF 80 KB Gweld fel HTML (6) 16 KB
- 07 Scottish Futures Trust (Saesneg yn unig)
PDF 17 KB Gweld fel HTML (7) 6 KB
- 08 Llywodraeth Cymru
PDF 92 KB Gweld fel HTML (8) 23 KB
- 09 National Energy Action (NEA) - Wales (Saesneg yn unig)
PDF 75 KB Gweld fel HTML (9) 24 KB
- 10 Infrastructure New South Wales (Saesneg yn unig)
PDF 521 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
yn cynnal ymchwiliad i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol arfaethedig Llywodraeth
Cymru.
Crynodeb
Nod yr ymchwiliad
fydd darparu eglurder i randdeiliaid ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu’r
Comisiwn Seilwaith, i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi Llywodraeth Cymru yn y
maes hwn, ac i wneud argymhellion ystyrlon i’r Llywodraeth.
Cefndir
Lansiodd
Llywodraeth Cymru ei dogfen ymgynghori - Comisiwn
Seilwaith Cenedlaethol i Gymru - ar 17 Hydref 2016. Mae’n nodi cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith
Cenedlaethol i Gymru o fewn y 12 mis nesaf, ac yn gofyn cyfres o gwestiynau.
Bydd y Comisiwn
yn darparu cyngor arbenigol a thechnegol ar strategaeth hirdymor ar gyfer
buddsoddi mewn seilwaith economaidd, a hynny gan edrych hyd at 30 mlynedd i’r
dyfodol, ond gan beidio ag ail-edrych ar benderfyniadau a wnaed eisoes. Bydd
angen iddo ystyried argymhellion cyrff eraill sydd â rôl statudol o ran y
seilwaith, a bydd yn gweithio mewn ffordd sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gofynnodd y Pwyllgor
am farn ynghylch:
- Beth ddylai rôl, cylch gwaith ac amcanion y Comisiwn
fod;
- Sut y dylai’r Comisiwn weithredu, a pha fethodolegau
y dylai eu mabwysiadu ar gyfer cynnal ei waith;
- Sut y dylai’r Comisiwn gael ei lywodraethu a’i
ariannu i sicrhau ei fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru;
- Enghreifftiau o arfer gorau yn y DU ac yn rhyngwladol
y gallai’r Comisiwn ddysgu oddi wrthynt;
- Sut y dylai gwaith y Comisiwn ymgorffori egwyddorion
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015;
- Sut, ac i ba raddau, y dylai gwaith y Comisiwn
ddylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru a’i blaenoriaethau o ran
prosiectau seilwaith;
- Sut y dylai gwaith y Comisiwn ryngweithio â
blaenoriaethau seilwaith rhanbarthol a Bargeinion Dinesig / Bargeinion
Twf; a
- Pha berthynas y dylai’r Comisiwn ei chael â Chomisiwn
Llywodraeth y DU ar faterion trawsffiniol a seilwaith mewn meysydd sydd
wedi’u datganoli’n
rhannol.
Tystiolaeth
Gofynnodd y
pwyllgor am dystiolaeth gan amrywiaeth o arbenigwyr, yng Nghymru a thu hwnt.
Roeddem yn awyddus
i glywed gan y sectorau peirianneg ac adeiladu, gan fusnesau, y sector
amgylcheddol, gan y comisiynau seilwaith yn y DU ac yn rhyngwladol, a chan
lywodraeth leol.
Yn ogystal â’r
sesiynau tystiolaeth ffurfiol a ddechreuodd ar 17 Tachwedd 2016, cynhaliodd y
Pwyllgor ddigwyddiad trafod anffurfiol â rhanddeiliaid i gasglu rhagor o
safbwyntiau.
Darparu tystiolaeth ysgrifenedig
Mae’r Pwyllgor yn
croesawu cyfraniadau ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg, ac yn gofyn i sefydliadau
â pholisïau neu gynlluniau Iaith Gymraeg i ddarparu cyflwyniadau dwyieithog, yn
unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.
Ni ddylai
cyflwyniadau fod yn hwy na phum ochr o A4, â pharagraffau wedi’u rhifo, a
dylent ganolbwyntio ar faterion a nodwyd uchod. Gweler y
canllawiau i rai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.
Anfonwch eich
sylwadau at: Senedd@cynulliad.cymru erbyn 30 Tachwedd 2016. Efallai na fydd yn
bosibl ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn
Datgelu gwybodaeth
Sicrhewch eich
bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad ar ddatgelu
gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565