Ymgynghoriad
Dyfodol Ynni Craffach i Gymru?
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2015 a Dydd Gwener, 4 Medi 2015
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- SEFW Llyfryn ymatebion i'r ymgynghoriad PDF 6 MB
- SEFW 01 Yr un ymateb gan nifer o ymatebwyr (Cymraeg yn unig) PDF 811 KB
- SEFW 02 Yr un ymateb gan nifer o ymatebwyr (Saesneg yn unig) PDF 798 KB
- SEFW 03 RenewableUK Cymru (Saesneg yn unig) PDF 551 KB
- SEFW 04 Yr Athro Ian Knight Prifysgol Caerdyd (Saesneg yn unig) PDF 163 KB Gweld fel HTML (5) 172 KB
- SEFW 05 National Energy Action Cymru (Saesneg yn unig) PDF 395 KB
- SEFW 06 Nwy Prydain (Saesneg yn unig) PDF 445 KB
- SEFW 07 Dr Richard Cowell, Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 171 KB Gweld fel HTML (8) 37 KB
- SEFW 08 Cyngor ar Bopeth (Saesneg yn unig) PDF 246 KB Gweld fel HTML (9) 66 KB
- SEFW 09 Ymateb gan Ynni Clyfar GB PDF 246 KB Gweld fel HTML (10) 63 KB
- SEFW 10 Ynni Cymunedol Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 152 KB Gweld fel HTML (11) 36 KB
- SEFW 11 Y Sefydliad Cynllunio TrefolBrenhinol yng Nghymru (Saesneg yn unig) PDF 408 KB
- SEFW 12 Ynni Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 185 KB Gweld fel HTML (13) 65 KB
- SEFW 13 Ofgem (Saesneg yn unig) PDF 137 KB Gweld fel HTML (14) 20 KB
- SEFW 14 RWE npower (Saesneg yn unig) PDF 223 KB Gweld fel HTML (15) 38 KB
- SEFW 15 Calor (Saesneg yn unig) PDF 223 KB Gweld fel HTML (16) 38 KB
- SEFW 16 Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 174 KB Gweld fel HTML (17) 47 KB
- SEFW 17 Y Cymoedd Gwyrdd (Cymru) CIC (Saesneg yn unig) PDF 245 KB
- SEFW 18 South Hook LNG Terminal Company Ltd (Saesneg yn unig) PDF 160 KB Gweld fel HTML (19) 17 KB
- SEFW 19 Cyfeillion y Ddaear Cymru (Saesneg yn unig) PDF 173 KB Gweld fel HTML (20) 50 KB
- SEFW 20 Yr athro Gareth Wyn Jones (Saesneg yn unig) PDF 254 KB Gweld fel HTML (21) 93 KB
- SEFW 21 Highview Power Storage (Saesneg yn unig) PDF 624 KB Gweld fel HTML (22) 40 KB
- SEFW 22 Tidal Lagoon Power (Saesneg yn unig) PDF 504 KB
- SEFW 23 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 220 KB
- SEFW 24 Cyfoeth Naturiol Cymru PDF 187 KB Gweld fel HTML (25) 69 KB
- SEFW 25 Bywyd Gwyllt y Byd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 184 KB Gweld fel HTML (26) 41 KB
- SEFW 26 Grid Cenedlaethol (Saesneg yn unig) PDF 143 KB Gweld fel HTML (27) 30 KB
- SEFW 27 Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu Cymru (Saseneg yn unig) PDF 975 KB
- Gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd yn ystod yr ymchwiliad
- Western Power Distribution (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi (Saesneg yn unig) PDF 165 KB
- University of Exeter (Saesneg yn unig) PDF 237 KB
- Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (Saesneg yn unig) PDF 143 KB Gweld fel HTML (33) 28 KB
- Res Publica - After the Green Deal (Saesneg yn unig) PDF 806 KB
- Scottish Power (Saesneg yn unig) PDF 5 MB
- Scottish Power 2 (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- Regen South West (Saesneg yn unig) PDF 153 KB
- Cwmni Adfywio Abergwyngregyn (Saesneg yn unig) PDF 89 KB Gweld fel HTML (38) 20 KB
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Saesneg yn unig) PDF 103 KB Gweld fel HTML (39) 26 KB
- Ynni Padarn Peris (Saesneg yn unig) PDF 163 KB
- Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 224 KB
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Saeseg yn unig) PDF 158 KB Gweld fel HTML (42) 26 KB
- Cyngor Sir Wrecsam (Saesneg yn unig) PDF 13 MB
- British Gas (Saesneg yn unig) PDF 567 KB
- Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 409 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i sicrhau dyfodol ynni gwell i Gymru.
Diben yr ymgynghoriad hwn
Diben yr ymgynghoriad hwn yw bod yn sail i farn y Pwyllgor ar sut dylid
datblygu polisi ynni yng Nghymru yn y Cynulliad nesaf a thu hwnt, yng
nghyd-destun cyflawni ymrwymiadau Cymru o ran cyfrannu at atal tymheredd
cyfartalog y byd rhag codi mwy na 2° Celsius.
Cylch gorchwyl
Gan ddechrau o'r sail bod angen i Gymru leihau ei allyriadau carbon ar frys
os yw am gyfrannu at atal tymheredd cyfartalog y byd rhag codi mwy na 2°
Celsius, a'r angen i wella diogelwch ynni yng Nghymru, byddwn yn anelu at
gyrraedd barn ar:
- sut y gall Cymru sicrhau dyfodol ynni gwell, gan gynnwys cyflenwi ynni
carbon isel, rheoli'r galw am ynni a storio ynni, a hynny yn ddigon cyflym
i sicrhau'r gostyngiadau angenrheidiol mewn allyriadau;
- a all y fframwaith rheoleiddio a'r seilwaith presennol sicrhau'r
newidiadau hyn yn unol â'r cyflymder angenrheidiol;
- y camau y mae angen i ddinasyddion a'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r
trydydd sector eu cymryd; a'r
- cydbwysedd o ran cymhwysedd datganoledig yn y maes polisi hwn.
Cwestiynau
Y
cymysgedd ynni
- A allwn ddatgarboneiddio ein system ynni yn ddigon cyflym i sicrhau'r
gostyngiadau angenrheidiol yn yr allyriadau?
- Pa gymysgedd o adnoddau cynhyrchu gwasgaredig fyddai orau ar gyfer
diwallu anghenion ynni adnewyddadwy Cymru mewn perthynas â chyflenwi a)
trydan, b) nwy, c) gwres?
Y grid
- Sut mae rhwydwaith dosbarthu grid Cymru yn galluogi neu gyfyngu ar
ddatblygu system ynni fwy craff newydd?
- Pa newidiadau fyddai eu hangen o ran perchenogaeth, rheoleiddio,
gweithredu a buddsoddi?
Storio
- Sut ellir defnyddio mecanweithiau storio ynni i oresgyn y rhwystrau o
ran cynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy?
Perchnogaeth
- Ymchwilio'r awydd a pha mor ymarferol fyddai mwy o berchenogaeth
gyhoeddus a pherchnogaeth gymunedol dros seilwaith cynhyrchu, trawsyrru a
dosbarthu, a goblygiadau newid o'r fath.
Effeithlonrwydd ynni a lleihâd yn y galw
- Sut y gellir defnyddio'r system gynllunio a'r rheoliadau adeiladu i
wella effeithlonrwydd ynni tai (rhai a adeiladwyd o'r newydd a'r stoc sydd
eisoes yn bodoli)?
- Beth fyddai'r effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd pe
byddai Cymru yn gosod safonau effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer tai sy'n
cael eu hadeiladu o'r newydd? (er enghraifft, Passivhaus neu Energy Plus)
Cymunedau - llunio achos dros newid
- Sut all cymunedau, busnesau a diwydiant gyfrannu at drawsnewid y
ffordd y mae Cymru yn meddwl am ynni?
Ai'r ateb i'r her hon yw galluogi cymunedau i gymryd mwy o
gyfrifoldeb am fodloni eu hanghenion ynni yn y dyfodol?
Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau.
Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref 2015, felly
byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cyfraniad a fyddech yn fodlon rhoi
tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.
Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig
oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a
ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod
cyhoeddus. Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi
eich tystiolaeth. Gallwn hefyd dderbyn
tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a
gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu
ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch
gwybodaeth i'r cyhoedd.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 4 Medi 2015 ac, yn ddelfrydol, ni
ddylai fod yn hwy na phedwar tudalen A4, dylid rhifo'r paragraffau a dylid ei
chyflwyno mewn fformat Word. Mae’n
bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad, gohebiaeth a dogfennau ysgrifenedig
perthnasol eraill yn cael eu cyhoeddi ar waelod y dudalen hon.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn
cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chlerc y
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565