Ymgynghoriad
Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 28 Gorffennaf 2014 a Dydd Gwener, 3 Hydref 2014
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- FEI 01 NUT Cymru PDF 198 KB
- FEI 02 Canolfan Cydweithredol Cymru PDF 173 KB
- FEI 03 Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru PDF 52 KB
- FEI 04 Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru PDF 153 KB
- FEI 05 Cymdeithas Undebau Credyd Prydain PDF 1 MB
- FEI 06 NAHT - Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon PDF 88 KB
- FEI 07 Cyngor ar Bopeth Cymru PDF 1 MB
- FEI 08 Estyn PDF 110 KB
- FEI 09 Llais Mawr Conwy PDF 358 KB
- FEI 10 Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol PDF 557 KB
- FEI 11 Y Gweinidog Addysg a Sgiliau PDF 594 KB
- FEI 12 Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi PDF 693 KB
- FEI 13 The Money Charity PDF 635 KB
- FEI 14 Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru PDF 204 KB
- FEI 15 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy PDF 110 KB
- FEI 16 Dinas a Sir Abertawe ar ran Grŵp Llywio Cynhwysiant Ariannol Abertawe PDF 270 KB
- FEI 17 Archwilydd Cyffredinol Cymru PDF 566 KB
- FEI 18 Cyngor Sir y Fflint PDF 92 KB
- FEI 19 Bwrdd Prosiect Cynhwysiant Ariannol Gyda'n Gilydd PDF 348 KB
- FEI 20 ATL Cymru PDF 128 KB
- FEI 21 Y Llais Cenedlaethol dros Ddysgu Gydol Oes – NIACE Cymru PDF 120 KB
- FEI 22 ColegauCymru PDF 1 MB
- FEI 23 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam PDF 351 KB
- FEI 24 Comisiynydd Plant Cymru PDF 682 KB
- FEI 25 Gweithredu dros Blant PDF 229 KB
- FEI 26 Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 2 MB
- FEI 27 Y Gweinidog lechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 1 MB
- FEI 28 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 149 KB Gweld fel HTML (29) 31 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwahodd tystiolaeth ar egwyddorion
cyffredinol y Bil Addysg a
Chynhwysiant Ariannol (Cymru). I gynorthwyo ei waith, byddai'r Pwyllgor yn
croesawu eich barn am y pwnc hwn.
Beth yw
Bil?
Cyfraith arfaethedig yw Bil. Ar ôl i'r Cynulliad ystyried a
phasio Bil, ac ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae'n
dod yn “Ddeddf y Cynulliad”.
Mae pedwar cyfnod i'r broses o ystyried Bil. Yng Nghyfnod 1,
mae pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil (sy'n cynnwys cymryd
tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar gan rai sydd â diddordeb a chan
randdeiliaid), a'r Cynulliad yn cytuno i'r egwyddorion cyffredinol hynny.
Beth y
mae'r Bil hwn yn gobeithio ei gyflawni?
Prif amcan polisi y Bil yw rhoi i bobl yng Nghymru y
wybodaeth a'r gallu ariannol angenrheidiol sydd eu hangen arnynt i reoli eu
hamgylchiadau ariannol yn effeithiol. Wrth wneud hynny, bydd y cynigion yn
helpu i gynyddu ffyniant yng Nghymru drwy wella addysg ariannol a gallu ei
dinasyddion.
Mae cynigion y Bil yn perthyn i dri chategori eang:
- Bydd y Bil yn gwella gallu ariannol ymysg plant a
phobl ifanc oed ysgol (8 i 16 oed) drwy ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol
bod addysg ariannol yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm ysgol (adrannau 4 i
7 yn y Bil).
- Bydd y Bil yn cryfhau rôl awdurdodau lleol gan helpu
pobl i osgoi mynd i drafferthion ariannol, drwy ei gwneud yn ofynnol i
awdurdodau lleol fabwysiadu strategaeth cynhwysiant ariannol (adrannau 8 i
10 yn y Bil).
- Bydd y Bil yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol
o ran darparu cyngor a threfnu i roi cyngor am reolaeth ariannol, yn
gyffredinol ac yn benodol o ran plant 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal,
plan a fu'n derbyn gofal yn flaenorol a myfyrwyr (adrannau 11 i 13 yn y
Bil).
Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol ar gael ar wefan y
Cynulliad drwy ddilyn y linc canlynol:
www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=9333
Beth yw
rôl y Pwyllgor?
Rôl y Pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a
chyflwyno adroddiad arnynt. Yn hynny o beth, mae'r Pwyllgor wedi cytuno ar
gylch gorchwyl, sef:
Trafod:
- egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a Chynhwysiant
Ariannol (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni'r amcanion
polisi a nodwyd yn y Bil;
- prif ddarpariaethau'r Bil ac a ydynt yn briodol i
gyflawni'r amcanion a nodwyd ynddo;
- unrhyw rwystrau posibl i roi'r prif ddarpariaethau ar
waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;
- goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2
o'r Memorandwm Esboniadol, sef yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy'n
amcangyfrif y costau a'r buddion o roi'r Bil ar waith); a
- priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru
wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn nhudalennau 47 i 48 o'r Memorandwm
Esboniadol).
Gwahoddiad
i gyfrannu at yr ymchwiliad
Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth
ysgrifenedig i gynorthwyo ei waith o graffu ar y Bil. Yn benodol, byddem yn
croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir yn Atodiad 1.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig
o'ch sylwadau at: PwyllgorPPI@cymru.gov.uk a nodi'r teitl a ganlyn ar yr
e-bost, “Ymgynghoriad – Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru).”
Fel arall, gallwch ysgrifennu at:
Sarah Bartlett, Dirprwy Glerc
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai unrhyw sylwadau gyrraedd erbyn 3 Hydref 2014. Mae’n
bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Wrth baratoi eich sylwadau, cadwch y canlynol mewn cof:
- dylai eich ymateb gyfeirio at y materion sydd gerbron
y Pwyllgor, a dylai fod yn weddol fyr (dim mwy na 4 neu 5 tudalen).
Gofynnwn i chi roi'r teitl a nodir uchod ar eich tystiolaeth;
- bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel rheol yn sicrhau
bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael yn gyhoeddus, ac efallai y
cânt eu gweld a’u trafod gan Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd
pwyllgor. Os nad ydych am i’ch ymateb na’ch enw gael eu cyhoeddi, mae’n
bwysig eich bod yn nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’r dystiolaeth;
- nodwch ai ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad yr
ydych; a
- nodwch a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar i'r
Pwyllgor. (Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor yn debygol o glywed tystiolaeth
lafar yn ystod mis Medi a mis Hydref 2014).
Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â
diddordeb yn y pwnc hwn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi
disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn
Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau
iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â'u polisïau gwybodaeth
gyhoeddus.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad
ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod y dyddiadau
uchod.
Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o
sefydliadau i roi sylwadau, ac mae rhestr o'r rhain ar gael ar gais. Fodd
bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn
ymlaen at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffent gyfrannu at yr
adolygiad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad
Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.
Datgelu
gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich
gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm.
Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth
i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o'r
polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Gareth
Rogers, Clerc y Pwyllgor ar 029 2089 8409 neu Sarah Bartlett, y Dirprwy Glerc
ar 029 2089 8429.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Email: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565