Ymgynghoriad
Trefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol - Gorffennaf 2014
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 4 Gorffennaf 2014 a Dydd Gwener, 15 Awst 2014
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Y ddogfen hon yw cam nesaf ein hymgynghoriad ar drefniadau
pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar i bawb a
ymatebodd i'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Cymerwyd yr
ymatebion hynny i ystyriaeth wrth lunio'r cynigion amgaeedig, ac rydym yn
gwahodd sylwadau gan Aelodau Cynulliad unigol, grwpiau plaid, ymddiriedolwyr y
cynllun cyfredol, a'r cyhoedd.
Pan fyddwn wedi ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law mewn
ymateb i'r ymgynghoriad hwn, byddwn yn llunio ein cynllun terfynol, felly
anogir yr Aelodau i achub ar y cyfle hwn i fynegi eu safbwyntiau wrthym. Bydd
trefniadau pensiwn newydd ar waith o ddechrau'r Cynulliad nesaf, ym mis Mai
2016.
Y dyddiad olaf ar gyfer ymateb yw 15 Awst 2014.
Dylech anfon eich sylwadau at Glerc y Bwrdd Taliadau:
Dogfennau ategol