Ymgynghoriad
Ymchwiliad i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 13 Chwefror 2012 a Dydd Gwener, 9 Mawrth 2012
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Ar 4 Hydref 2011, cafodd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad
Cenedlaethol ddeiseb
gan elusen ganser Tenovus a oedd yn dweud:
“Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu eli haul am ddim i bob
plentyn o dan 11 oed yng Nghymru.”
Cyfeiriwyd y ddeiseb i’r
Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i’w hystyried. O ganlyniad, roedd y Pwyllgor wedi
penderfynu cynnal ymchwiliad byr i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn
ysgolion, a roedd yn ystyried nid yn unig a yw eli haul ar gael a’r defnydd
ohono, ond hefyd faterion eraill yn ymwneud ag amddiffyn plant rhag yr haul,
fel darparu cysgod mewn ysgolion a gwisgo dillad addas y tu allan.
Er mwyn cynorthwyo’r
ymchwiliad, roedd y Pwyllgor yn croesawu sylwadau ysgrifenedig am amddiffyn
plant a phobl ifanc rhag yr haul, yn yr ysgol neu mewn gofal, ac yn enwedig
ynghylch yr hyn a ganlyn:
- a yw’r polisïau a’r canllawiau presennol ar gyfer ysgolion ar
amddiffyn plant rhag yr haul yn effeithiol o ran eu hamddiffyn rhag yr
haul, ac, os nad ydynt, lle y mae angen gwella;
- a oes digon o ymwybyddiaeth o’r polisïau a’r canllawiau presennol ar
amddiffyn pobl rhag yr haul, ac, os nad oes, beth yw’r ffordd orau i godi
ymwybyddiaeth;
- a oes ffactorau sy’n rhwystro plant a phobl ifanc rhag defnyddio
dulliau o amddiffyn eu hunain rhag yr haul mewn ysgolion, gan gynnwys eli
haul, dillad addas, hetiau neu gysgod, er enghraifft o ran cost neu
athrawon neu warchodwyr plant yn rhoi’r eli haul arnynt, ac, os felly, sut
y gellid eu datrys.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Helen Finlayson