Ymgynghoriad
Ymchwiliad i Gyflog a Thaliadau Uwch Reolwyr
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 9 Ionawr 2014 a Dydd Gwener, 31 Ionawr 2014
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- PAC(4)-SMP01 Grŵp Hay (Saesneg yn Unig) PDF 202 KB
- PAC(4)-SMP02 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 203 KB Gweld fel HTML (3) 52 KB
- PAC(4)-SMP03 Cyflogwyr GIG Cymru - Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 237 KB Gweld fel HTML (4) 47 KB
- PAC(4)-SMP04 Cynghrair y Trethdalwyr (Saesneg yn Unig) PDF 357 KB Gweld fel HTML (5) 33 KB
- PAC(4)-SMP05 Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol (Saesneg yn Unig) PDF 208 KB
- PAC(4)-SMP06 Rhodri Glyn Thomas AC (Saesneg yn Unig) PDF 513 KB
- PAC(4)-SMP07 Yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 8 MB
Diben yr ymgynghoriad
Ymchwiliad i Gyflog a
Thaliadau Uwch Reolwyr
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal
ymchwiliad i gyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus yng
Nghymru. Penderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn er mwyn ystyried
agweddau ar werth am arian cyflog uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus. Nid yw’r
Pwyllgor yn bwriadu ystyried cyflogau unigolion, ond yn hytrach sicrhau bod
digon o atebolrwydd a thryloywder mewn perthynas â chyflog a thaliadau uwch
reolwyr ar draws y sector cyhoeddus.
Fel rhan o’r
ymchwiliad hwn bydd y Pwyllgor yn ystyried:
- Y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â
phennu cyflogau, yn enwedig a yw hon yn briodol ar gyfer sicrhau gwerth am
arian ar draws y sector cyhoeddus;
- Y dull o gytuno ar godiadau cyflog;
- Tryloywder tâl a gwobrwyon/buddion ee pensiynau neu ffioedd
swyddogion canlyniadau;
- Ansawdd a lefel y wybodaeth gymharol sy’n bodoli ar gyfer cyflog
uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus; a
- Gwerth sefydlu corff, neu ymestyn trefniadau presennol fel Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sydd â chylch gwaith o fod â
throsolwg o gyflog / taliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dogfennau ategol