Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgorau’r Senedd yn ceisio gwybodaeth i lywio eu gwaith craffu ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Rydym yn awyddus i drafod y disgwyliadau o ran cyllideb 2026-27, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 ac effaith cyllideb 2025-26.

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol, trosfwaol. Rydym hefyd yn gweithio gyda phwyllgorau eraill y Senedd i sicrhau bod y cynigion ar gyfer adrannau penodol, neu bortffolios Cabinet penodol, yn cael eu hystyried yn fanwl.

 

Hoffai'r Pwyllgor ofyn eich barn ar y cwestiynau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y llythyr ymgynghori (PDF, 209KB) ac unrhyw sylwadau cyffredinol eraill sydd gennych ar y gyllideb ddrafft.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig drwy gwblhau ffurflen ymgynghori neu drwy ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor Cyllid, erbyn dydd Gwener 26 Medi 2025.

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Trosolwg o'r fethodoleg ddadansoddol

Caiff yr holl ymatebion a ddaw i law fel rhan o’r ymgynghoriad hwn eu dadansoddi gan ddefnyddio  dulliau cymysg.

 

Byddwn yn dadansoddi testun gyda chymorth meddalwedd Prosesu Iaith Naturiol (NLP). Diben y dull gweithredu hwn yw ein galluogi ni i ddadansoddi y nifer cynyddol o ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn effeithlon dros amser.  Mae'r dull hwn yn rhoi cyfleoedd i'r Senedd fod yn fwy hyblyg wrth ddadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gan ddefnyddio themâu, teimladau a negeseuon allweddol ar gyfer pwyllgorau pwnc unigol yn seiliedig ar eu meysydd diddordeb.

 

Er y bydd yr offeryn NLP yn helpu i nodi themâu, bydd dadansoddwyr ymchwil yn parhau i ddarparu'r mewnbwn mwyaf arwyddocaol o ran dadansoddi ac adolygu'r holl ymatebion i’r ymgynghoriad a sicrhau ansawdd y themâu sy'n deillio o waith NLP.  Ni fydd yr NLP yn gwneud unrhyw benderfyniadau am ddim unigolion nac ymatebion unigol, a dim ond i aelodau cyfyngedig o'r tîm ymchwil y mae'n hygyrch.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565