Adolygu Effeithiolrwydd Pwyllgorau yn y Chweched Senedd
Adolygu Effeithiolrwydd Pwyllgorau yn y Chweched Senedd
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 18 Mehefin 2025 a Dydd Gwener, 12 Medi 2025
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- Ymateb gan Natasha Asghar (Saesneg yn Unig)
PDF 87 KB - Ymateb gan IWA (Saesneg yn Unig)
PDF 251 KB - Ymateb gan Llywodraeth Cymru
PDF 379 KB - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
PDF 80 KB - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
PDF 95 KB - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
PDF 126 KB - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
PDF 162 KB - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
PDF 112 KB - Y Pwyllgor Cyllid
PDF 149 KB - Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
PDF 96 KB - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
PDF 161 KB - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
PDF 98 KB - Y Pwyllgor Deisebau
PDF 124 KB - Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
PDF 350 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Fforwm y Cadeiryddion yn ceisio barn
ar effeithiolrwydd pwyllgorau yn y Chweched Senedd er mwyn helpu i lywio
strwythur pwyllgorau’r Seithfed Senedd.
Mae Fforwm y
Cadeiryddion (“y Fforwm”) yn cynnwys holl Gadeiryddion pwyllgorau'r Senedd ac
mae'n gyfrifol am sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y pwyllgorau, drwy
gydgysylltu, arweinyddiaeth ar y cyd, a chyfnewid gwybodaeth. Mae’n darparu lle
i fynd i'r afael â materion craffu trawsbynciol, rhannu arfer da, ac edrych yn
fwy strategol ar waith pwyllgorau.
Mae'r Fforwm yn
ystyried sut mae pwyllgorau wedi gweithredu yn ystod y Chweched Senedd ac
unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud i weithdrefnau ac arferion pwyllgorau ar
gyfer y Seithfed Senedd er mwyn sicrhau bod y swyddogaeth graffu mor effeithiol
â phosibl. Mae'r Fforwm yn awyddus i ystyried materion diwylliannol ehangach
ynghylch gweithrediad pwyllgorau'r Senedd, yn ogystal â materion ymarferol fel
maint a swyddogaeth.
Gwnaeth Pwyllgor
Senedd y Dyfodol nifer o argymhellion i'r Fforwm ynghylch ystyriaethau ar gyfer
pwyllgorau yn y Seithfed Senedd, ac mae'r rhain wedi'u hystyried yn y
cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.
Mae rhagor o
wybodaeth am waith y pwyllgorau yn y Chweched Senedd ac ystyriaethau ar gyfer
strwythurau pwyllgorau yn y dyfodol wedi'i nodi ar y tudalennau a ganlyn, ond
mae'r Fforwm yn awyddus i glywed barn ar y meysydd a ganlyn yn benodol:
>>>>
>>>
Diwylliant pwyllgorau
>>>
Trefniadaeth busnes y pwyllgorau
>>>
Rhyngweithio â phwyllgorau'r Senedd
<<<
Bwriad yr
ymgynghoriad hwn yw casglu ystod o safbwyntiau, ac mae croeso ichi ateb rhai
o’r cwestiynau, neu'r cwestiynau i gyd. Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn 12
Medi 2025 i FforwmyCadeiryddion@senedd.cymru.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Fforwm y Cadeiryddion
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: FforwmyCadeiryddion@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565