Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgorau’r Senedd yn ceisio gwybodaeth i lywio eu gwaith craffu ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Rydym yn awyddus i drafod y disgwyliadau o ran cyllideb 2025-26, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 ac effaith cyllideb 2024-25.

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol, trosfwaol. Rydym hefyd yn gweithio gyda phwyllgorau eraill y Senedd i sicrhau bod y cynigion ar gyfer adrannau penodol, neu bortffolios Cabinet penodol, yn cael eu hystyried yn fanwl.

 

Hoffai'r Pwyllgor ofyn eich barn ar y cwestiynau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y llythyr ymgynghori (PDF 342kb) ac unrhyw sylwadau cyffredinol eraill sydd gennych ar y gyllideb ddrafft.

 

Rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig drwy gwblhau Ffurflen Ymgynghori neu drwy ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor Cyllid, erbyn dydd Gwener 29 Tachwedd 2024.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565