Ymgynghoriad

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Bwriad y Bil yw dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal, a galluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Bydd hefyd yn gwneud diwygiadau i sicrhau bod Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gallu gweithredu'n llawn ac yn effeithiol.

 

Ceir rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef.

 

Er mwyn llywio ei waith craffu, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth ar y Bil. Yn benodol, hoffai’r Pwyllgor glywed barn am:

>>>> 

>>>Egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriadau polisi a nodwyd;

>>>Darpariaethau’r Bil (ceir crynodeb isod), gan gynnwys a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriadau polisi a nodwyd:

>*>*>*

***Rhan 1, Pennod 1: darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant: cyfyngiadau ar elw (adrannau 1-13)

***Rhan 1, Pennod 2: diwygiadau amrywiol mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol a swyddogaethau gofal cymdeithasol awdurdodau lleol (adrannau 14-22 ac atodlen 1)

***Rhan 2: Gofal Iechyd (adrannau 23-26 ac atodlen 2)

***Rhan 3: Cyffredinol (adrannau 27-30)

<*<*<*

>>>Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil, y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef, a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, yn rhoi ystyriaeth iddynt;

>>>Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);

>>>A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; 

>>>Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol y Bil, fel y’u nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol;

>>>Asesiadau effaith integredig Llywodraeth Cymru (a nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol), gan gynnwys yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant;  

>>>Y dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynigion polisi a deddfwriaethol a adlewyrchir yn y Bil, gan gynnwys y dull o ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid.

<<< 

 

Cyflwyno eich barn

 

Hoffem i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

 

Mae templed y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy e-bost. Dylai pob ymateb gael eu hanfon drwy'r ffurflen ar-lein.

 

Y dyddiad cau i gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 28 Mehefin 2024.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565