Ymgynghoriad
Banc Datblygu Cymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 16 Tachwedd 2023 a Dydd Iau, 4 Ionawr 2024
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- DBW01 - Paul Taylor [Saesneg yn unig] PDF 148 KB
- DBW02 - Cwmpas [Saesneg yn unig] PDF 249 KB
- DBW03 - Ffederasiwn y Busnesau Bach – Cymru (FSB) [Saesneg yn unig] PDF 278 KB
- DBW04 - Uned Ymchwil Economi Cymru, Ysgol Fusnes Caerdydd [Saesneg yn unig] PDF 176 KB
- DBW05 - Llywodraeth Cymru PDF 377 KB
- DBW06 - Yr Athro Dylan Jones-Evans [saesneg yn unig] PDF 306 KB
- DBW07 - Nutrivend [Saesneg yn unig] PDF 56 KB
- DBW08 - Fintech Cymru [Saesneg yn unig] PDF 160 KB
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr ymgynghoriad
Galwodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ei
ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru.
Sut i rannu eich barn
Croesawodd y
Pwyllgor eich barn am unrhyw un, neu bob un, o'r materion y cyfeirir atynt yn y
cylch gorchwyl isod:
>>>>
>>>Perfformiad
cyffredinol Banc Datblygu Cymru ers ei sefydlu yn 2017, gan gynnwys meysydd o
lwyddiant yn ogystal ag unrhyw feysydd o danberfformiad.
>>>I ba
raddau y mae’r Banc Datblygu wedi cyflawni’r amcanion penodol a nodir yn y
ddogfen Banc Datblygu Cymru – ased
cenedlaethol strategol ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017 ac
yn y 'Llythyr cylch gwaith Tymor y
Llywodraeth' ar gyfer y Banc Datblygu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021.
>>>Edrych
ar enghreifftiau o arfer gorau byd-eang a deall sut mae Banc Datblygu Cymru yn
cymharu â banciau datblygu eraill o faint tebyg – o ran maint y cyllid, y
mathau o gymorth a ddarperir ac effaith y cymorth, ac ati.
<<<
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad
hwn oedd 4 Ionawr 2024.
Os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech gael
rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol
y Senedd, mae'r
Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd
swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r
Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu
hunain.
Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl
sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565