Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef

 

Cylch gorchwyl

Hoffai'r Pwyllgor glywed eich barn ar egwyddorion cyffredinol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodwyd.

Wrth ffurfio barn, efallai yr hoffech ystyried darpariaethau allweddol y Bil, sy’n cynnwys y canlynol:

>>>> 

>>> Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain.

>>> Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi Strategaeth Iaith Arwyddion Prydain Genedlaethol.

>>> Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau.

>>> Dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodedig i gyhoeddi cynlluniau Iaith Arwyddion Prydain.

>>> Penodi cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain.

>>> Gosod dyletswyddau adrodd ar y cyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'r dyletswyddau hyn.

>>> Pa mor briodol yw'r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth.

<<<< 

 

Efallai y byddwch, hefyd, am ystyried y canlynol:

>>>> 

>>>Rhwystrau posibl rhag gweithredu darpariaethau'r Bil, ac a yw’r Bil yn eu hystyried;

>>>pa mor briodol yw'r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth;

>>>a oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a hefyd

>>>goblygiadau ariannol y Bil.

<<<< 

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, defnyddiwch y ffurflen ar-lein naill ai i roi ymatebion i gwestiynau unigol, neu er mwyn lanlwytho dogfen/fideo gorffenedig. Fel arall, anfonwch eich cyflwyniad drwy e-bost neu drwy'r post i'r cyfeiriadau a restrir isod. Sut bynnag yr ydych chi’n bwriadu cyflwyno, gwnewch hynny erbyn y dyddiad cau, sef 12 Medi 2025.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Yn ogystal â’r alwad gyffredinol am dystiolaeth, rydym, hefyd, yn croesawu ymatebion mewn Iaith Arwyddion Prydain – rhaid cyflwyno'r rheini gan lanlwytho fideo drwy ein ffurflen ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ar ein gwefan.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Ar gyfer ymatebion yn IAP rydyn ni hefyd wedi cyflwyno Hysbysiad Preifatrwydd Ychwanegol.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565