Cymru Wrth-hiliol
Cymru Wrth-hiliol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2023 a Dydd Gwener, 6 Hydref 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Cymru
Wrth-hiliol
Mae Cynllun
Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn datgan mai ei ddiben yw
"gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig
Leiafrifol" ac mae'n nodi gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol erbyn
2030. Ar 20 Mawrth 2023, cynhaliodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sesiwn bord gron gyda rhanddeiliaid
i ganfod blaenoriaethau allweddol mewn perthynas â gweithredu’r Cynllun
Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Tynnodd y rhanddeiliaid sylw at faterion yn
ymwneud â’r modd y caiff y cynllun ei weithredu a’i gyflawni’n gyffredinol, a
mynegi pryderon yn y meysydd polisi a ganlyn:
>>>>
>>>Iechyd:
mae pryderon yn cynnwys defnyddio plant fel cyfieithwyr mewn lleoliadau gofal
iechyd.
>>>Addysg:
mae pryderon yn cynnwys hiliaeth mewn ysgolion, hyfforddiant a sgiliau, bylchau
cyrhaeddiad, a rhwystrau mewn addysg uwch.
>>>Tai:
mae pryderon yn cynnwys lefelau isel o ymwybyddiaeth am y cynllun a diffyg
ymgysylltu â landlordiaid preifat.
>>>Trosedd
a Chyfiawnder: pryderon ynghylch diffyg gweithredu ar adroddiadau am
hiliaeth, mynd i'r afael â 'hiliaeth bob dydd' a mathau amlwg o hiliaeth wedi'u
targedu at grwpiau penodol (gan gynnwys ymfudwyr a ffoaduriaid) ac
anghymesuredd o ran hil yn y system cyfiawnder troseddol.
<<<<
Mae'r Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am archwilio’r materion hyn ymhellach
drwy gynnal ymchwiliad i’r modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
ei weithredu a’i gyflawni.
Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl yr
ymchwiliad yw:
>>>>
>>>Ystyried
effeithiolrwydd camau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni’r cynllun, gan gynnwys yr
hyn sy’n cael ei wneud i ‘arwain drwy esiampl’ o ran mabwysiadu dull gweithredu
rhagweithiol a thrawslywodraethol ynghylch hiliaeth.
>>>Ystyried
cynnydd a threfniadau monitro’r Cynllun, gan gynnwys rôl y sector cyhoeddus
(awdurdodau lleol, iechyd, addysg), y trydydd sector a, phan fo’n gymwys, y
sector preifat.
>>>Ymchwilio
i gynnydd yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil, a phenderfynu a oes bylchau o ran
casglu data ac a yw’r data’n cael eu dadansoddi’n effeithiol.
>>>Ymchwilio
i ba sianelau cyfathrebu sydd wedi'u sefydlu i sicrhau bod pobl â phrofiad
bywyd yn cael gwybod am gynnydd y cynllun a pha newidiadau sy'n digwydd o
ganlyniad i'r cynllun.
>>>Gwerthuso
effeithiolrwydd y Cynllun yn ei flwyddyn gyntaf, gan gynnwys a yw camau
gweithredu wedi cael eu cyflawni, beth yw'r canlyniadau allweddol hyd yn hyn, a
darganfod pam na weithredwyd camau sy’n weddill.
>>>Helpu
i ddeall yn well pa ymyriadau eraill sydd eu hangen i gefnogi’r gwaith o
gyflawni’r cynllun ac a oes rhwystrau rhag gweithredu’r cynllun.
<<<<
O ystyried
pwysigrwydd croestoriadedd, bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried sut mae’r
Cynllun a’r polisïau wedi rhoi ystyrieaeth i hunaniaeth croestoriadol pobl a
sut y cafodd y rhain eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu'r Cynllun.
Casglu
tystiolaeth
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich
safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i
gwerthfawrogi.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau yw 6 Hydref 2023.
Yn ogystal â'ch
ymateb, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y
person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.
>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno
gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel
unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.
>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb gan
eich rhiant neu eich gwarcheidwad y cewch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy
e-bost).
>>>Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw
beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau
unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r Pwyllgor
drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol,
gyda rhesymau dros y cais.
>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn
eich tystiolaeth, megis rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bo wedi
cytuno y cewch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn
deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<<
Sut i rannu
eich barn
Gallwch rannu
eich barn yn electronig drwy ei hanfon at SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru,
neu drwy'r post at Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Senedd
Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.
Darparu
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y
naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i
sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg
ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth
gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.
Datgelu
gwybodaeth
Cofiwch sicrhau
eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno
gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- ARW01 - Y Sefydliad Tai Siartredig (Saesneg yn unig)
PDF 895 KB - ARW02 - Race Council Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB - ARW03 - Cyngor y Gweithlu Addysg (Saesneg yn unig)
PDF 969 KB - ARW04 - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
PDF 454 KB - ARW05 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
PDF 507 KB - ARW06 - Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
PDF 338 KB - ARW07 Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (Saesneg yn unig)
PDF 202 KB - ARW08 - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (Saesneg yn unig)
PDF 428 KB - ARW09 - Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig)
PDF 281 KB - ARW10 - Power Up (Saesneg yn unig)
PDF 243 KB - ARW11 - Cyfoeth Naturiol Cymru
PDF 88 KB - ARW12 - Dr Robert Jones, Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig)
PDF 254 KB - ARW13 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
PDF 108 KB - ARW14 - Cyngor Sir Fynwy (Saesneg yn unig)
PDF 378 KB - ARW15 - Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru
PDF 392 KB - ARW16 - Gofal Canser Tenovus (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB - ARW17 - Cymorth i Ferched Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 784 KB - ARW18 - ESTYN (Saesneg yn unig)
PDF 355 KB - ARW19- Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 144 KB - ARW20 - Sefydliad Prydeinig y Galon (Saesneg yn unig)
PDF 217 KB - ARW21 - Tirweddau Cymru
PDF 170 KB - ARW22 - Cyngor Abertawe (Saesneg yn unig)
PDF 168 KB - ARW23 - Gofal Cymdeithasol Cymru
PDF 224 KB - ARW24 - Tai Pawb (Saesneg yn unig)
PDF 434 KB - ARW25 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 181 KB - ARW26 - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
PDF 464 KB - ARW27 - Colegau Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 285 KB - ARW28 - Yr Eglwys Gatholig (Saesneg yn unig)
PDF 120 KB - ARW29 - Y Coleg Nyrsio Brenhinol (Saesneg yn unig)
PDF 334 KB - ARW30 - Ymddiriedolaeth GIG Felindre (Saesneg yn unig)
PDF 104 KB - ARW31 - Addysg a Gwella Iechyd Cymru
PDF 194 KB - ARW32- Stop Watch UK (Saesneg yn unig)
PDF 486 KB - ARW33 - Unigolyn (Saesneg yn unig)
PDF 295 KB - ARW34 - Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Chynghrair Ffoaduriaid Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 372 KB - ARW35 - Rhwydwaith BAMEed Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 154 KB - ARW37- Rhentu Doeth Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB - ARW38 - Iechyd Cyhoeddus Cymru
PDF 686 KB - ARW39 - Cymwysterau Cymru
PDF 392 KB - ARW40 - Coleg Brenhinol y Bydwragedd (Saesneg yn unig)
PDF 175 KB - Llythyr ymgynghori
PDF 313 KB Gweld fel HTML (41) 43 KB - Nodiadau’r Digwyddiad i Randdeiliaid
PDF 139 KB - Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030
PDF 1 MB - Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 346 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565