Ymgynghoriad
Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 15 Gorffennaf 2015 a Dydd Mawrth, 8 Medi 2015
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- TCM 01 Grŵp Diwygio Trethi Incwm Isel (Saesneg yn unig) PDF 632 KB
- TCM 01A Grŵp Diwygio Trethi Incwm Isel - gwybodaeth ychwanegol (Saesneg yn unig) PDF 70 KB Gweld fel HTML (4) 15 KB
- TCM 02 Archwilydd Cyffredinol Cymru PDF 255 KB
- TCM 02A Archwilydd Cyffredinol Cymru - gwybodaeth ychwanegol (Saesneg yn unig) PDF 743 KB
- TCM 03 CLA Cymru (Saesneg yn unig) PDF 156 KB
- TCM 04 Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig) PDF 86 KB
- TCM 05 Un Llais Cymru (Saesneg yn unig) PDF 39 KB
- TCM 06 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 39 KB
- TCM 06A Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - gwybodaeth ychwanegol (Saesneg yn unig) PDF 49 KB
- TCM 07 Deloitte (Saesneg yn unig) PDF 125 KB
- TCM 08 Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) Cymru (Saesneg yn unig) PDF 466 KB
- TCM 09 Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) (Saesneg yn unig) PDF 209 KB
- TCM 10 Sefydliad Siartredig Trethiant (CIOT) (Saesneg yn unig) PDF 159 KB
- TCM 11 Cyfoeth Naturiol Cymru PDF 70 KB Gweld fel HTML (16) 29 KB
- TCM 12 Monmouthshire Mediation Practice (Saesneg yn unig) PDF 819 KB
- TCM 13 Cyllid a Thollau EM (HMRC) (Saesneg yn unig) PDF 81 KB Gweld fel HTML (18) 43 KB
- TCM 13A Cyllid a Thollau EM (HMRC) - gwybodaeth ychwanegol (Saesneg yn unig) PDF 550 KB
- TCM 14 Cymdeithas y Cyfreithwyr (Saesneg yn unig) PDF 677 KB
- TCM 15 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) (Saesneg yn unig) PDF 64 KB Gweld fel HTML (21) 51 KB
- TCM 16 Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) (Saesneg yn unig) PDF 382 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn
cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).
I gynorthwyo ei waith, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.
Cylch Gorchwyl
Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:
Ystyried—
- Egwyddorion cyffredinol Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) a’r angen
am ddeddfwriaeth –
- Wrth ddod i farn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried Rhannau
unigol o’r Bil:
- Rhan 2: Awdurdod Cyllid Cymru - gan gynnwys sefydlu corff cyhoeddus
newydd; aelodaeth o fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru; ei phrif swyddogaeth,
dirprwyo swyddogaethau a chyfarwyddyd; pwerau statudol Awdurdod Cyllid
Cymru; gwybodaeth warchodedig am drethdalwr; a threfniadaeth a
threfniadau llywodraethu.
- Rhan 3: Ffurflenni treth, ymholiadau ac asesiadau- yn cynnwys
dyletswyddau trethdalwyr i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;
ffurflenni treth; ymholiadau Awdurdod Cyllid Cymru ac atgyfeirio at
dribiwnlys yn ystod ymholiad; penderfyniadau ac asesiadau Awdurdod Cyllid
Cymru; hawlio am ryddhad treth mewn achos o asesu gormodol neu dreth a
ordalwyd;
- Rhan 4: Pwerau Ymchwilio Awdurdod Cyllid Cymru – gan gynnwys pwerau Awdurdod Cyllid
Cymru i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol; cyfyngiadau ar
hysbysiadau gwybodaeth; archwilio mangreoedd ac eiddo arall.
- Rhan 5: Cosbau - gan gynnwys
cosbau am fethu â chyflwyno ffurflenni treth, anghywirdebau yn ymwneud â
threfniadau cadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl, ac yn ymwneud ag
ymchwiliadau; talu cosbau; ac atodol;
- Rhan 6: Llog – yn cynnwys llog ar symiau sy’n daladwy i Awdurdod
Cyllid Cymru a ganddi; a chyfraddau llog;
- Rhan 7: Talu a gorfodi - gan
gynnwys talu ac ardystio dyled; ac adfer;
- Rhan 8: Adolygiadau ac apelau - gan gynnwys penderfyniadau apeladwy;
adolygiadau; apelau; canlyniadau adolygiadau ac apelau; a chytundebau
setlo;
- Rhan 9: Ymchwilio i droseddau
- gan gynnwys pwerau i ymchwilio i droseddau; enillion troseddau;
a rheoleiddio pwerau ymchwilio;
- Rhan 10: Darpariaethau terfynol - yn cynnwys pŵer i wneud
darpariaeth ganlyniadol; rheoliadau; dyroddi hysbysiadau; a rhoi
hysbysiadau a dogfennau eraill i Awdurdod Cyllid Cymru.
- unrhyw rwystrau posibl o ran rhoi’r darpariaethau hyn ar waith ac a
yw’r Bil yn eu hystyried;
- a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil
- goblygiadau ariannol y Bil ( fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm
Esboniadol);
- priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud
is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym
Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).
Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad
Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â buddiant yn y pwnc
hwn.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich
sefydliad. Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a
gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu
ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor
yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar
yn ystod tymor y gwanwyn.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 8 Medi 2015. Mae’n bosibl na
fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Ni ddylai’r
dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a
dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau
ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.
Datgelu gwybodaeth
Mae gan y Cynulliad bolisi
ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn
ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael
drwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6343).
Dogfennau ategol
- Llythyr ymgynghori - 15 Gorffennaf 2015 PDF 209 KB Gweld fel HTML (1) 20 KB
- Atodiad 1 (C) - Cylch Gorchwyl PDF 34 KB Gweld fel HTML (2) 48 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565