Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) wedi'i gyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig er mwyn iddo graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi rhagor o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn ei ystyried a sut y gallwch rannu eich barn.

 

Gwybodaeth am y Bil

Nod y Bil yw hybu datblygiad twristiaeth yng Nghymru, ac os caiff ei basio bydd yn:

>>>> 

>>>ailddatgan a moderneiddio swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran hybu twristiaeth yng Nghymru, ac ar yr un pryd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried yr effaith gymdeithasol y gallai twristiaeth ei chael a'r effaith y gallai ei chael ar yr amgylchedd a'r Gymraeg;

>>>rheoleiddio darpariaeth llety ymwelwyr yng Nghymru drwy:

>*>*>*

***gyflwyno trefn drwyddedu i roi sicrwydd i ymwelwyr fod llety’n bodloni'r safonau y byddent yn eu disgwyl a sicrhau bod y safonau hynny, yn achos llety hunanarlwyo, yn cyd-fynd yn agosach â safonau cyfatebol sydd eisoes yn gymwys i'r sector rhentu preifat yng Nghymru,

***gwneud safon mewn perthynas â ffitrwydd llety ymwelwyr yn ofyniad contractiol, ac

***adeiladu ar sail y gofrestr a grëwyd gan Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 i sefydlu cyfeiriadur llety ymwelwyr at ddiben darparu gwybodaeth i'r cyhoedd am lety ymwelwyr yng Nghymru.

<*<*<*

<<< 

 

Cylch gwaith

Er mwyn llywio ei waith craffu, bydd y Pwyllgor yn trafod:

>>>> 

>>>Egwyddorion cyffredinol y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni’r amcan polisi a nodir yn y Bil, sef hybu datblygiad twristiaeth yng Nghymru fel y nodir uchod.

>>>Darpariaethau'r Bil, gan gynnwys a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni'r bwriad polisi a nodwyd.

>>>Unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu darpariaethau’r Bil.

>>>A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil.

>>>Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol.

>>>Pa mor briodol yw’r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1: Pennod 5 o'r Memorandwm Esboniadol).

<<< 

 

Sut i rannu eich barn

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd yn y materion hyn neu brofiad ohonynt i rannu eu barn, gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

I gyflwyno eich barn, llenwch y ffurflen ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer rhannu eich barn yw 16.00, ddydd Llun 17 Tachwedd.

 

Trosolwg o'r fethodoleg ddadansoddol

Caiff yr holl ymatebion a ddaw i law fel rhan o’r ymgynghoriad hwn eu dadansoddi gan ddefnyddio dulliau cymysg.

 

Byddwn yn dadansoddi testun gyda chymorth meddalwedd Prosesu Iaith Naturiol (NLP). Diben y dull gweithredu hwn yw ein galluogi ni i ddadansoddi y nifer cynyddol o ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn effeithlon dros amser. Mae'r dull hwn yn rhoi cyfleoedd i'r Senedd fod yn fwy hyblyg wrth ddadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gan ddefnyddio themâu, teimladau a negeseuon allweddol ar gyfer pwyllgorau pwnc unigol yn seiliedig ar eu meysydd diddordeb.

 

Er y bydd yr offeryn NLP yn helpu i nodi themâu, bydd dadansoddwyr ymchwil yn parhau i ddarparu'r mewnbwn mwyaf arwyddocaol o ran dadansoddi ac adolygu'r holl ymatebion i’r ymgynghoriad a sicrhau ansawdd y themâu sy'n deillio o waith NLP. Ni fydd yr NLP yn gwneud unrhyw benderfyniadau am ddim unigolion nac ymatebion unigol, a dim ond i aelodau cyfyngedig o'r tîm ymchwil y mae'n hygyrch.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565