Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd - Rhoddion

Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd - Rhoddion

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (y Pwyllgor) yn cynnal ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd a’r potensial i’w gryfhau.

 

Mae’n bwysig i’r Senedd fod mor dryloyw ac agored â phosibl, yn enwedig mewn perthynas â chael arian a rhoddion fel Aelodau o’r Senedd. Mae rhoddion o’r fath yn bwysig ar gyfer ariannu gweithgareddau fel ymgyrchoedd arweinyddiaeth, nad oes modd defnyddio adnoddau’r Senedd ar eu cyfer wrth gwrs. Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n cynnal hyder yr etholwyr. Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>lefel y gwaith o gofnodi a datgelu rhoddion y mae’n ofynnol i Aelodau unigol ei wneud;

>>>a ddylai fod unrhyw gyfyngiadau (y tu hwnt i rai’r Comisiwn Etholiadol) ar bwy all roi;

>>>a ddylai fod cap ar roddion gan unrhyw un endid neu unigolyn; ac

>>>a ddylai fod amrywiad yn y rheolau yn dibynnu ar ffynhonnell y rhodd.

<<< 

 

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn ac unrhyw beth arall ar y pwnc rydych chi'n ystyried ei fod yn berthnasol. Cyflwynwch eich ymateb erbyn 18 Gorffennaf 2025 i SeneddSafonau@senedd.cymru.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565