Isafbris Uned am Alcohol yng Nghymru

Isafbris Uned am Alcohol yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad ysgrifenedig byr gyda'r bwriad o ymateb i adroddiad ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar weithrediad ac effaith yr Isafbris Uned am Alcohol.

 

Daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 i rym ar 2 Mawrth 2020. Cyflwynodd y Ddeddf Isafbris Uned am Alcohol, gan osod pris o 50c fesul uned o alcohol. Mae hyn yn golygu na ellir gwerthu alcohol yng Nghymru am lai na 50c yr uned. Ochr yn ochr â pholisïau eraill sy’n ymdrin â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, nod yr isafbris uned yw lleihau niwed o’r fath drwy gynyddu cost alcohol rhad, cryf iawn, sydd yn aml yn gysylltiedig â defnydd niweidiol o alcohol a materion iechyd cysylltiedig.

 

Mae’r Ddeddf yn cynnwys cymal machlud, sy’n golygu y bydd isafbris am alcohol yn dod i ben yng Nghymru ym mis Mawrth 2026 oni bai bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i’w ymestyn. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru lunio adroddiad ar weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth.

 

Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y adroddiadau terfynol y gwerthusiad annibynnol roedd wedi comisiynu ar weithrediad ac effaith isafbris uned. Mae hefyd yn cynnal ymgynghoriad i gasglu barn ar ymwybyddiaeth o isafbris uned yng Nghymru a’i effaith.

 

I lywio’r gwaith hwnnw, byddem yn croesawu cael eich barn am y materion a nodir yn yr atodiad i’r llythyr hwn. Fel arall, os ydych eisoes wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, efallai y byddai’n well gennych rannu’r ymateb hwnnw â ni.

 

Dealltwriaeth y cyhoedd o isafbris uned

>>>> 

>>>Mae isafbris uned yn fesur gwella iechyd wedi’i dargedu sydd â’r nod o leihau’r defnydd o alcohol ymhlith pobl sy’n yfed lefelau niweidiol ohono. Pa mor effeithiol y mae diben y ddeddfwriaeth wedi cael ei gyfleu i’r cyhoedd ac i’r busnesau yr effeithir arnynt?

<<< 

 

Effaith isafbris uned

>>>> 

>>>Pa effaith y mae isafbris uned wedi’i chael ar niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru?

>>>Pa effaith y mae cyflwyno’r isafbris wedi’i chael ar grwpiau penodol, gan gynnwys:

>*>*>*

***yfwyr dibynnol ac agored i niwed

***plant a phobl ifanc

***aelwydydd incwm isel

<*<*<*

>>>Pa effaith y mae cyflwyno’r isafbris yng Nghymru wedi’i chael ar (i) manwerthwyr a (ii) awdurdodau lleol?

<<< 

 

Dyfodol isafbris uned yng Nghymru

>>>> 

>>>A ddylai isafbris uned barhau yng Nghymru? Pam?

>>>A ddylai’r isafbris uned presennol o 50c gael ei adolygu? Pam?

>>>Bwriedir i isafbris uned fod yn un o amrywiaeth o ddulliau polisi ar gyfer mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. A oes angen ystyried/cryfhau unrhyw ddulliau eraill er mwyn lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru?

>>>Pa effaith y mae isafbris uned wedi’i chael ar yr angen am wasanaethau triniaeth a chymorth o ran alcohol?

>>>Pa effaith y mae isafbris uned wedi’i chael o ran y risg y gall sylweddau mwy peryglus ac anghyfreithlon yn cymryd lle alcohol?

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Y dyddiad cau yw diwedd dydd 30 Ebrill 2025.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad o ran a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Sut i roi eich barn

I roi eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at:

 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565