Teithio Llesol yng Nghymru
Teithio Llesol yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 7 Chwefror 2025 a Dydd Gwener, 28 Mawrth 2025
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- ATW01 - Lee Waters AS (Saesneg yn unig)
PDF 598 KB Gweld fel HTML (1) 121 KB - ATW02 - Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Ddeddf Teithio Llesol (Saesneg yn unig)
PDF 194 KB Gweld fel HTML (2) 62 KB - ATW03 - Bwrdd Teithio Llesol (Saesneg yn unig)
PDF 138 KB Gweld fel HTML (3) 65 KB - ATW04 - Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig)
PDF 411 KB Gweld fel HTML (4) 55 KB - ATW05 - Iechyd Cyhoeddus Cymru
PDF 713 KB Gweld fel HTML (5) 56 KB - ATW06 - Comisiynydd Plant Cymru
PDF 538 KB Gweld fel HTML (6) 62 KB - ATW07 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
PDF 279 KB Gweld fel HTML (7) 68 KB - ATW08 - Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (Saesneg yn unig)
PDF 522 KB Gweld fel HTML (8) 56 KB - ATW09 - Living (Saesneg yn unig)
PDF 650 KB Gweld fel HTML (9) 55 KB - ATW10 - Cycling UK (Saesneg yn unig)
PDF 300 KB Gweld fel HTML (10) 80 KB - ATW11 - Age Connects Morgannwg (Saesneg yn unig)
PDF 312 KB Gweld fel HTML (11) 53 KB - ATW12 - Guide Dogs Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 148 KB Gweld fel HTML (12) 48 KB - ATW13 - Anabledd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 428 KB Gweld fel HTML (13) 59 KB - ATW14 - Age Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 216 KB Gweld fel HTML (14) 52 KB - ATW15 - RNIB Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 317 KB Gweld fel HTML (15) 54 KB - ATW16 - Cardiff Cycle City (Saesneg yn unig)
PDF 371 KB Gweld fel HTML (16) 48 KB - ATW17 - Swansea Wheelrights (Saesneg yn unig)
PDF 263 KB Gweld fel HTML (17) 45 KB - ATW18 - Beicio Bangor (Saesneg yn unig)
PDF 81 KB Gweld fel HTML (18) 33 KB - ATW19 - Ramblers (Saesneg yn unig)
PDF 513 KB Gweld fel HTML (19) 54 KB
Diben yr ymgynghoriad
Ym mis Medi 2024,
cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar
deithio llesol yng Nghymru. Ychydig cyn hynny, cyhoeddodd Bwrdd Teithio Llesol
Llywodraeth Cymru ei adroddiad
blynyddol ar gyfer 2023-24
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cynnal ymchwiliad i Deithio Llesol, a hynny
wedi’i lywio gan faterion a godwyd yn y ddau adroddiad hyn. Mae’r ymgynghoriad
hwn yn gwahodd tystiolaeth bellach ynghylch y themâu a ganlyn isod, gan gynnwys
unrhyw enghreifftiau o astudiaethau achos y bydd ymatebwyr efallai am eu
hamlygu i gefnogi eu safbwyntiau:
>>>>
>>>Cynllun
cyflawni teithio llesol newydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys unrhyw
fylchau ymddangosiadol o ran ei gwmpas.
>>>Cyfleoedd
i brif ffrydio ystyriaethau teithio llesol yn well mewn polisïau a rhaglenni
ehangach.
>>>Rôl
gynyddol Trafnidiaeth Cymru fel rhan o’r trefniadau cyflawni ar gyfer teithio
llesol.
>>>Rôl a
gweithgareddau Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
>>>Gwariant
Llywodraeth Cymru ar deithio llesol a sut y caiff hwn ei ddosbarthu a’i
flaenoriaethu rhwng gwahanol gynlluniau a mathau o ymyriadau.
>>>I ba
raddau y mae awdurdodau lleol yn blaenoriaethu teithio llesol a buddsoddi
cysylltiedig, cyfyngiadau capasiti, ac effeithiau posibl o bwyslais cynyddol ar
gynllunio trafnidiaeth rhanbarthol.
>>>A yw Deddf Teithio
Llesol (Cymru) 2013 ei hun yn dal i fod yn addas at y diben, gan gynnwys ei
gofynion o ran mapio rhwydwaith teithio llesol.
>>>Beth
yw’r ffordd orau o ysgogi newid mewn ymddygiad er mwyn cefnogi teithio llesol,
a beth yw’r rhwystrau presennol.
>>>Sicrhau
bod teithio llesol yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan gynnwys o ran dyluniad y
cynllun.
>>>Gwella
monitro a gwerthuso a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer casglu data gwell
drwy Arolwg Teithio Cenedlaethol newydd.
>>>Unrhyw
faterion eraill sy’n peri pryder mewn perthynas â chyflawni uchelgeisiau
teithio llesol Llywodraeth Cymru.
<<<
Gwahoddiad i
gyfrannu i'r ymchwiliad
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich
safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i
gwerthfawrogi.
I rannu eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddCCGG@senedd.cymru,
neu drwy'r post at:
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN
Ynghyd â’ch
cyflwyniad, a fyddech cystal â nodi eich enw a’ch manylion cyswllt fel y
person, neu’r sefydliad, sy’n cyflwyno’r dystiolaeth, ac a yw eich tystiolaeth
yn cael ei chyflwyno gan unigolyn, neu ar ran sefydliad.
Y dyddiad cau ar
gyfer rhannu eich barn yw 16.00 ddydd 28 Mawrth 2025.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd ddwy
iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCCGG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565