Llwybrau prentisiaeth

Llwybrau prentisiaeth

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig  yn cynnal ymchwiliad i lwybrau prentisiaeth.

 

Mae'r Pwyllgor yn gofyn am safbwyntiau ynghylch y cylch gorchwyl a ganlyn:

>>>> 

>>>Llwybrau rhwng gwahanol lefelau o brentisiaeth: Pa heriau sy’n wynebu prentisiaid wrth geisio dilyn llwybrau gyrfa drwy wahanol lefelau o brentisiaeth – er enghraifft, o brentisiaeth iau i radd-brentisiaeth? A yw hyn yn anoddach mewn rhai gyrfaoedd/sectorau nag eraill?

>>>Yr economi: I ba raddau y mae llwybrau prentisiaeth yn cefnogi anghenion busnesau Cymru ac yn cyfrannu at lenwi bylchau o ran sgiliau yn economi Cymru?

>>>Cyflogwyr: Sut y gellir ymgysylltu cyflogwyr â’r gwaith o hwyluso’r llwybrau hyn a denu prentisiaid? A oes angen cymorth penodol i helpu microfusnesau, a busnesau bach a chanolig (BBaCh), i ymgysylltu â’r rhaglen brentisiaeth?

>>>Gwybodaeth am brentisiaethau: Sut y gellir rhannu arfer dda rhwng gwasanaethau gyrfaoedd, ysgolion, colegau a chyflogwyr o ran hyrwyddo prentisiaethau a darparu profiad gwaith ystyrlon?

>>>Cymorth a mynediad cyfartal ar gyfer dysgwyr: I ba raddau y mae llwybrau prentisiaeth yn agored i holl bobl ifanc Cymru a pha rwystrau sy’n wynebu grwpiau penodol o ran demograffig neu ardal ddaearyddol?

>>>Rôl Llywodraeth Cymru: Sut mae polisïau’n cefnogi llwybrau prentisiaeth ac a oes unrhyw rwystrau sy’n rhaid ymdrin â nhw yn hynny o beth? Pa rôl sydd gan Lywodraeth Cymru, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill o ran nodi a chyfleu anghenion economaidd ac anghenion o ran sgiliau i helpu i lywio fframweithiau prentisiaeth a’r ffordd y caiff cymwysterau eu cynnig?

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn yw 7 Chwefror 2025.

 

Sut i roi eich barn

Er eglurder, nid oes ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.

Gallwch rannu eich barn yn electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddEconomi@senedd.cymru, neu ei hanfon drwy'r post at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

Os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565