Datblygu'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)

Datblygu'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ar 8 Tachwedd 2025, lansiodd Mark Isherwood AS ymgynghoriad ar ei gynnig ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru), gan wahodd pobl i fynegi eu barn ar amcanion polisi’r gyfraith arfaethedig.

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Ionawr 2025.

 

Diben Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yw gwneud darpariaeth i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o BSL a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus mewn BSL a chefnogi’r broses o gael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli ar hyn o bryd i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.

 

Bydd y Bil hefyd yn gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg, gyda chynnig i sefydlu Comisiynydd BSL sydd â’r un pwerau ag ieithoedd lleiafrifol eraill.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn awr yn ceisio barn ar y Bil arfaethedig ac ar yr amcanion polisi sydd ynddo.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgynghoriad - Biliau Aelod
Sened Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Email: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565