Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU

Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU

Diben yr ymgynghoriad

Ar 18 Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Ymchwiliad Covid-19 y DU ei Adroddiad Modiwl 1 - Gwytnwch a pharodrwydd y Deyrnas Unedig, a wnaeth 10 argymhelliad i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.

Cylch gwaith y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru (y Pwyllgor) yw ystyried yr adroddiadau ym mhob cam o Ymchwiliad Covid-19 y DU, a chynnig unrhyw fylchau ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill Cymru yn ystod pandemig Covid-19 y dylid eu harchwilio ymhellach.

 

Ystyriodd adroddiad Modiwl 1 p’un a oedd cynllun priodol ar gyfer y pandemig ac a oedd y DU yn barod ar gyfer y posibilrwydd hwnnw. Roedd y Modiwl hwn yn crybwyll system gyfan argyfyngau sifil, gan gynnwys adnoddau, rheoli risg a gwaith paratoi at bandemig. Bu’n craffu ar benderfyniadau’r llywodraeth yn ymwneud â chynllunio, a lluniodd gyfres o argymhellion.

 

Mae’r Pwyllgor felly yn gofyn am eich barn ar unrhyw ‘fylchau’ yn Adroddiad Modiwl 1 ac ar y newidiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i'w dull o gynllunio ar gyfer argyfyngau sifil posibl a pharodrwydd ar gyfer pandemig yn y dyfodol. Mae ein gwaith ar Fodiwl 1 yn ymwneud yn benodol â gwydnwch a pharodrwydd y DU a byddem yn gofyn felly i'ch ymateb fynd i'r afael â'r pwyntiau penodol isod. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar Fodiwlau eraill Ymchwiliad Covid-19 y DU maes o law.

 

Cylch gorchwyl

Bydd y Pwyllgor yn croesawu eich sylwadau ar y canlynol:

>>>> 

>>>A yw’r argymhellion yn adroddiad Modiwl 1 yn nodi’r camau blaenoriaeth sydd eu hangen i wella gwydnwch a pharodrwydd Cymru fel rhan o’r DU. A oes digon o fanylion ac a oes unrhyw fylchau amlwg sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Pwyllgor fynd ati i gasglu rhagor o dystiolaeth.

>>>Yr adnoddau y bydd angen er mwyn cyflawni’r argymhellion, o fewn yr amserlenni a nodir yn yr adroddiad.

>>>Sut y dylid monitro ac adrodd ar gynnydd. Yr angen am dryloywder a llinellau atebolrwydd clir ar gyfer cyflawni’r argymhellion.

<<< 

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Hoffem i chi gyflwyno’ch sylwadau drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

 

Mae templed ar gael i’w lawrlwytho er mwyn drafftio’ch ymateb cyn ei gyflwyno, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, gofynnwn i chi beidio â chyflwyno eich ymateb i'r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy’r e-bost. Dylid cyflwyno ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

 

Rydym yn awyddus i glywed gan gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl. Os hoffech gyflwyno eich barn ond nad ydych eisiau/na allwch lenwi'r ffurflen ar-lein, ysgrifennwch at y Pwyllgor a gall clercod y Pwyllgor drefnu ffordd wahanol i'ch llais gael ei glywed.

 

I rannu eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddCovid@senedd.cymru, neu drwy'r post at:

 

Y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru,
Senedd Cymru,
Bae Caerddd,
Caerdydd,
CF99 1SN

 

Os ydych yn bwriadu ebostio eich cyflwyniad, a fyddech cystal â nodi eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person, neu’r sefydliad, sy’n cyflwyno’r dystiolaeth, ac a yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn, neu ar ran sefydliad.

 

Y dyddiad cau ar gyfer rhannu eich barn yw 16.00 ddydd Gwener 3 Ionawr 2025.

 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diben Arbennig ar gyfer Cymru ar Ymchwiliad Covid-19
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCovid@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565