Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd

Ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad (y Pwyllgor) yn cynnal ymchwiliad i Atebolrwydd Aelodau Unigol o’r Senedd a’r potensial i’w gryfhau.

 

Mae sawl ffordd y mae Aelodau unigol o'r Senedd yn cael eu dwyn i gyfrif:

>>>> 

>>>Ar ôl cael ei ethol, mae Aelod yn atebol i’w etholwyr ac yn y pen draw, bydd Aelod sy’n sefyll i gael ei ailethol yn cael ei ddwyn i gyfrif gan y cyhoedd ym mhob etholiad.

>>>Gall Aelodau gael eu hanghymhwyso a’u diswyddo yn ystod tymor y Senedd am resymau penodedig gan gynnwys os cânt eu dyfarnu’n euog o drosedd a chael dedfryd o 12 mis neu ragor yn y carchar.

>>>Disgwylir i’r Aelodau hefyd fodloni’r safonau ymddygiad a’r rheolau a nodir yng Nghod Ymddygiad y Senedd, a gallant wynebu sancsiynau am dorri’r rheolau hyn.

>>>Fodd bynnag, nid oes darpariaeth i'r Senedd ei hun argymell cael gwared ag Aelod yn ystod tymor y Senedd.

<<< 

Yn ystod gwaith craffu’r Senedd ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, cafodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei wahodd i ystyried ffyrdd o gryfhau atebolrwydd unigol Aelodau gan y Pwyllgor Biliau Diwygio, yng ngoleuni’r dystiolaeth a ddaeth i law. Mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi gwahodd y Pwyllgor yn benodol i ystyried cyflwyno proses adalw a sut i reoleiddio Aelodau ac ymgeiswyr sy'n ceisio twyllo, yn dilyn y trafodion ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig.

 

Bydd y Pwyllgor yn ceisio cyflwyno ei gasgliadau i’r Senedd gyda’r bwriad o lywio unrhyw gynigion deddfwriaethol y gall Llywodraeth Cymru eu cyflwyno cyn etholiadau 2026.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar opsiynau posibl ar gyfer gwella atebolrwydd Aelodau, gan gynnwys yn y meysydd canlynol:

>>>> 

>>>Cyflwyno mecanwaith ar gyfer adalw Aelodau (rhyw fath o bleidlais gyhoeddus yn yr ardaloedd perthnasol rhwng etholiadau sy’n rhoi opsiwn i etholwyr ddiswyddo Aelod o’r Senedd pan gaiff cwyn am gamymddwyn ei chadarnhau);

>>>Rhesymau pam y gall Aelodau gael eu hanghymhwyso yn ystod tymor Senedd;

>>>Rhinweddau cyflwyno trosedd o dwyll;

>>>Cynyddu’r sancsiynau sydd ar gael ar gyfer achosion o dorri’r Cod Ymddygiad.

<<< 

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn erbyn dydd Gwener 27 Medi 2024. Cyflwynwch eich ymateb yn Gymraeg neu Saesneg, drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565