Ymgynghoriad
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 24 Mai 2024 a Dydd Gwener, 28 Mehefin 2024
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Bil Iechyd
a Gofal Cymdeithasol (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Bwriad y Bil yw
dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal, a galluogi cyflwyno taliadau
uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Bydd hefyd yn gwneud
diwygiadau i sicrhau bod Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol
(Cymru) 2016 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gallu
gweithredu'n llawn ac yn effeithiol.
Ceir rhagor o
fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef.
Er mwyn llywio ei
waith craffu, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi galwad agored am dystiolaeth ar y
Bil. Yn benodol, hoffai’r Pwyllgor glywed barn am:
>>>>
>>>Egwyddorion
cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriadau polisi a
nodwyd;
>>>Darpariaethau’r
Bil (ceir crynodeb isod), gan gynnwys a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn
cyflawni’r bwriadau polisi a nodwyd:
>*>*>*
***Rhan 1, Pennod
1: darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant: cyfyngiadau ar elw
(adrannau 1-13)
***Rhan 1, Pennod
2: diwygiadau amrywiol mewn perthynas â gwasanaethau gofal cymdeithasol,
gweithwyr gofal cymdeithasol a swyddogaethau gofal cymdeithasol awdurdodau
lleol (adrannau 14-22 ac atodlen 1)
***Rhan 2: Gofal
Iechyd (adrannau 23-26 ac atodlen 2)
***Rhan 3:
Cyffredinol (adrannau 27-30)
<*<*<*
>>>Unrhyw
rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil, y Memorandwm
Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef, a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, yn rhoi
ystyriaeth iddynt;
>>>Priodoldeb
y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir ym
Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);
>>>A oes
unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;
>>>Asesiad
Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol y Bil, fel y’u nodir yn Rhan 2 o'r
Memorandwm Esboniadol;
>>>Asesiadau
effaith integredig Llywodraeth Cymru (a nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm
Esboniadol), gan gynnwys yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant;
>>>Y
dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynigion polisi a
deddfwriaethol a adlewyrchir yn y Bil, gan gynnwys y dull o ymgysylltu ac
ymgynghori â rhanddeiliaid.
<<<
Cyflwyno eich
barn
Hoffem i chi
gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen
ar-lein.
Mae
templed y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i
chi ei anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y
templed hwnnw drwy e-bost. Dylai pob ymateb gael eu hanfon drwy'r ffurflen
ar-lein.
Y dyddiad cau i
gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 28 Mehefin 2024.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565