Ymgynghoriad

Y cyflenwad o dai cymdeithasol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r cyflenwad o dai cymdeithasol.

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw archwilio:

 

>>>> 

>>>Y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran cyflawni’r targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu; ac i ba raddau y mae’r lefelau presennol ac arfaethedig o dai cymdeithasol sy’n cael eu hadeiladu yn debygol o ddiwallu'r angen am dai

>>>Yr heriau y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu hwynebu wrth geisio cynyddu’r cyflenwad

>>>Sut mae safonau tai a ddatgarboneiddio yn effeithio ar y gwaith o ddarparu tai cymdeithasol

>>>Y cyfleoedd a'r risgiau sydd ynghlwm wrth gynyddu benthyca gan y Llywodraeth a buddsoddiad sefydliadol

>>>I ba raddau y mae'r system gynllunio yn cefnogi’r broses o adeiladu tai cymdeithasol y effeithiol

>>>Sut y gellir gwella’r dull strategol o reoli tir cyhoeddus a phreifat at ddibenion adeiladu tai cymdeithasol, gan gynnwys prynu gorfodol

>>>Y potensial ar gyfer cynyddu incwm o fecanweithiau sy’n ymwneud â chipio gwerth tir er mwyn buddsoddi mewn tai cymdeithasol

>>>Capasiti sector adeiladu Cymru i adeiladu cartrefi cymdeithasol carbon isel newydd; y potensial ar gyfer caffael cartrefi presennol ac ailfodelu adeiladau presennol

>>>Sut y gall cymunedau lleol ymgysylltu’n effeithiol â datblygiadau tai cymdeithasol yn eu hardaloedd.

<<< 

 

Sut i roi eich barn

I roi eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddTai@senedd.cymru, neu drwy'r post at:

 

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai,

Senedd Cymru,

Caerdydd,

CF99 1SN.

 

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 19 Ebrill 2024.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565