Ymgynghoriad

Datblygu'r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Ar 2 Chwefror 2024, lansiodd James Evans AS ymgynghoriad ar ei gynnig ar gyfer Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru), yn gwahodd pobl i roi eu barn ar amcanion polisi’r gyfraith arfaethedig. Disgwylir i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 22 Mawrth 2024.

 

Diben y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru) yw disodli deddfwriaeth iechyd meddwl sydd wedi dyddio; gwella'r modd y darperir cynlluniau iechyd meddwl ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a gwasanaethau i oedolion yng Nghymru; gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus Cymru; helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng triniaethau iechyd corfforol a thriniaethau iechyd meddwl; a helpu i leihau stigma iechyd meddwl yng Nghymru.

 

Bydd y diwygiadau a gynigir yn y Bil yn sicrhau y rhoddir mwy o rym i gleifion, a’u bod yn cael mwy o ddewis a dylanwad dros eu triniaeth, a’r urddas a'r parch y maent yn eu haeddu. Bydd y mesurau a gynigir yn y Bil hefyd yn cryfhau llais y claf.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn awr yn ceisio barn ar y Bil drafft ac ar yr amcanion polisi sydd ynddo.

 

Dogfennau ategol

>>>> 

>>>Y llythyr ymgynghori (PDF, 14kb)

>>>Y ddogfen ymgynghori (PDF, 62kb)

>>>Ffurflen ymateb (DocX, 51kb)

<<<< 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, rydym yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaeth statudol.

 

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio

 

Mae'n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd, at ddibenion datblygu'r Bil Aelod, hybu'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

 

I gael manylion llawn, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Biliau Aelod y Senedd cyn cyflwyno gwybodaeth.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgynghoriad - Biliau Aelod
Sened Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Email: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565