Ymgynghoriad

Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol

 

Cylch gorchwyl

 

Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

>>>> 

>>>Ystyried effeithiolrwydd y strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol newydd o ran mynd i'r afael â'r egwyddorion ar gyfer cydweithio ar faterion cyllidol.

>>>Archwilio cryfderau a gwendidau'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid.

>>>Deall sut y mae Llywodraeth y DU yn cyfathrebu â gweinyddiaethau datganoledig ynghylch digwyddiadau cyllidol, yn benodol, sut y gellid cyfathrebu ynghylch cyllid canlyniadol Barnett mewn modd tryloyw ac amserol.

>>>Archwilio pa brosesau y gellid eu rhoi ar waith i wella dylanwad y Pwyllgor, fel rhan o’r ddeddfwrfa, o ran craffu ar strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol.

>>>Ymchwilio i’r mecanweithiau datrys anghydfodau ac a ydynt yn addas at y diben, yn benodol, y broses datrys anghydfodau sy’n gysylltiedig â’r fframwaith cyllidol a gweithredu trethi datganoledig newydd.

>>>Archwilio enghreifftiau rhyngwladol o strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol a nodi meysydd o arfer da yn ymwneud â chydweithio ar faterion cyllidol.

<<<< 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565