Ymgynghoriad

Datblygu'r Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) - Ymgynghoriad i blant a phobl ifanc

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Ar 10 Mai 2023, lansiodd Sam Rowlands AS ymgynghoriad, wedi’i anelu’n benodol at blant a phobl ifanc, ar ei gynnig am gyfraith newydd ar ddarparu addysg breswyl yn yr awyr agored yng Nghymru (Bil Addysg Awyr Agored (Cymru). Disgwylir i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 23 Mehefin 2023.   

 

Mae’r gyfraith newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod pob person ifanc sy’n cael addysg a gynhelir yn cael y cyfle i brofi addysg breswyl yn yr awyr agored, am o leiaf wythnos, ar ryw adeg yn ystod eu blynyddoedd ysgol.

 

Bydd y Bil hefyd yn ei wneud yn ofyniad i ddyrannu cyllid i ddarparwyr addysg a gynhelir i’w galluogi i wneud hyn.

 

Mae’r ymgynghoriad bellach yn gwahodd plant a phobl ifanc i ymgysylltu’n uniongyrchol ar y Bil a rhoi eu barn ar yr hyn y gallai’r gyfraith newydd ei wneud. Gallant wneud hyn drwy ddefnyddio’r pethau canlynol:

>>>> 

>>> Strip Cartŵn Ymgynghoriad

>>> Fersiwn hygyrch o Strip Cartŵn Ymgynghoriad

>>> Dogfen ymgynghori gyda chwestiynau

>>> Arolwg ar-lein

<<<< 

 

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio

 

Bydd yr holl syniadau ac ymatebion a gasglwn yn helpu Sam i ysgrifennu’r gyfraith newydd. Bydd hefyd yn helpu pobl i ddeall beth allai'r gyfraith newydd ei wneud. Bydd y wybodaeth a’r syniadau yr ydych yn eu darparu ar gael gan Sam Rowlands, a hefyd gan y bobl sy’n gweithio gyda Sam yn y Senedd i helpu i ysgrifennu’r gyfraith newydd. 

 

I gael manylion llawn, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Bil Aelod y Senedd cyn cyflwyno gwybodaeth.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgynghoriad - Biliau Aelod
Sened Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Email: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565