Ymgynghoriad

Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cyflwyniad

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i gefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn edrych arno a sut y gallwch rannu eich barn. Mae'r holl wybodaeth hefyd ar gael i'w lawrlwytho fel dogfen Microsoft Word. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r opsiynau hygyrchedd yn y fersiwn Microsoft Word ar gael mewn dogfen eglurhaol.

 

Y cefndir

Mae'r term 'cyflyrau cronig' (a elwir hefyd yn 'gyflyrau hirdymor' neu’n 'salwch hirdymor') yn cynnwys ystod eang o gyflyrau iechyd na ellir eu gwella ond y gellir eu rheoli gyda'r cymorth a'r driniaeth gywir. Mae llawer o bobl hefyd yn byw gyda chydafiechedd (dau gyflwr cronig neu fwy). Mae’n bosibl y bydd pobl o wahanol gefndiroedd, sy’n perthyn i grwpiau neu gymunedau gwahanol neu sy’n byw mewn gwahanol rannau o Gymru, hefyd yn dioddef anghydraddoldebau oherwydd eu cyflwr neu o ran mynediad at wasanaethau neu gymorth.

 

Dull dau gam

Oherwydd cymhlethdod y materion hyn a'r amrywiaeth eang o gyflyrau cronig a all fod ar bobl, rydym yn defnyddio dull dau gam ar gyfer ein gwaith. Yn ystod cam 1, byddai’n dda gennym gael eich help i nodi'r themâu a'r materion allweddol y dylem ganolbwyntio arnynt wrth ymgymryd â cham 2 o’n gwaith.

 

Cam 1

Yn ystod cam cyntaf ein gwaith, byddwn yn ystyried y meysydd bras a ganlyn:

 

Y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol

>>>> 

>>>      Parodrwydd gwasanaethau lleol y GIG a gofal cymdeithasol i drin pobl sydd â chyflyrau cronig yn y gymuned.

>>>      Mynediad at wasanaethau hanfodol a thriniaeth barhaus, ac unrhyw rwystrau mae rhai grwpiau’n eu hwynebu, gan gynnwys menywod, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl.

>>>      Cymorth sydd ar gael i alluogi hunanreoli effeithiol lle bo'n briodol, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl.

<<<< 

 

Cyflyrau lluosog

>>>> 

>>>      Gallu’r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol i ymateb i unigolion â chydafiechedd yn hytrach na chanolbwyntio ar gyflyrau unigol ar wahân.

>>>      Y rhyngweithio rhwng cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd corfforol hirdymor.

<<<< 

 

Effaith ffactorau ychwanegol

>>>> 

>>>      Effaith y pandemig ar ansawdd gofal ar draws cyflyrau cronig.

>>>      Effaith y cynnydd mewn costau byw ar iechyd a lles pobl sydd â chyflyrau cronig.

>>>      I ba raddau y bydd gan wasanaethau'r capasiti i ateb y galw yn y dyfodol o ran poblogaeth sy'n heneiddio.

<<<< 

 

Atal a ffordd o fyw

>>>> 

>>>      Camau i wella atal ac ymyrraeth gynnar (i atal iechyd a lles pobl rhag gwaethygu).

>>>      Effeithiolrwydd y mesurau presennol i ymdrin â ffactorau ffordd o fyw/ymddygiad (gordewdra, ysmygu ac ati), ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a rhwystrau mae rhai grwpiau’n eu hwynebu.

<<<< 

 

Mae croeso i chi rannu sylwadau cyffredinol neu sylwadau penodol am gyflwr penodol.

 

Casglu tystiolaeth

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

Rydym yn casglu tystiolaeth ysgrifenedig ar hyn o bryd. Y dyddiad cau yw diwedd dydd Iau 25 Mai 2023.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>      Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>      A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>      Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>      Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>      Cadarnhad o ran a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>      Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>      Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<<< 

 

Sut i roi eich barn

I roi eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565