Ymgynghoriad

Datblygu'r Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ar 31 Ionawr 2023, lansiodd Sam Rowlands AS ymgynghoriad ar ei gynnig am Fil Addysg Awyr Agored (Cymru), gan wahodd pobl i fynegi eu barn ar amcanion polisi'r gyfraith arfaethedig. Mae disgwyl i'r ymgynghoriad gau ar 17 Mawrth 2023.

 

Mae'r Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) arfaethedig yn ceisio sefydlu dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pob person ifanc sy'n cael addysg a gynhelir yn cael cyfle i brofi addysg awyr agored breswyl, am o leiaf un wythnos, rywbryd yn ystod eu blynyddoedd ysgol.

 

Bydd y Bil hefyd yn sefydlu rhwymedigaeth statudol i gyllid gael ei ddarparu i ddarparwyr addysg a gynhelir i’w galluogi i wneud hyn.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn bellach yn gofyn am safbwyntiau ar y Bil arfaethedig ac ar yr amcanion polisi y mae'n ceisio eu cyflawni.

>>>> 

>>> Dogfen Ymgynghori

>>> Arolwg ar lein

<<<< 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio

Mae'n bosibl y caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd, at ddibenion datblygu'r Bil Aelod, hybu'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

 

I gael y manylion llawn, gweler y Nodyn Preifatrwydd ynghylch Biliau Aelod cyn cyflwyno gwybodaeth.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgynghoriad - Biliau Aelod
Sened Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Email: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565