Ymgynghoriad

Cynllun Llywodraeth Cymru i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Fel rhan o'i ymchwiliad i effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth, gofynnodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i randdeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol am dystiolaeth ysgrifenedig ar y cynllun ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 26 Ebrill 2022.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau ar y materion a ganlyn:

>>>> 

>>>A fydd y cynllun yn ddigonol i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau mewn gofal arferol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig, a lleihau amseroedd aros hir.

>>>A yw’r cynllun yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng mynd i’r afael â’r ôl-groniad presennol, a chreu system iechyd a gofal cymdeithasol fwy gwydn a chynaliadwy ar gyfer y tymor hir?

>>>A yw’r cynllun yn canolbwyntio’n digonol ar y canlynol:

>*>*>*

***Sicrhau bod pobl ag anghenion iechyd yn cyflwyno eu hunain;

***Cefnogi pobl sy'n aros am gyfnod hir am driniaeth, rheoli eu disgwyliadau, a'u paratoi ar gyfer cael y gofal y maent yn aros amdano, gan gynnwys hunanreoli â chymorth;

***Diwallu anghenion y rhai sydd â'r anghenion clinigol mwyaf, a'r rhai sydd wedi bod yn aros am amser hir;

***Gwella canlyniadau cleifion a'u profiad o wasanaethau'r GIG?

<*<*<*

>>>A yw’r cynllun yn darparu arweinyddiaeth ddigonol a chyfeiriad cenedlaethol i ysgogi cydymdrech, cydweithio a rhannu arloesedd ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan (gan gynnwys meysydd iechyd meddwl, gofal sylfaenol a gofal cymunedol)?

>>>A yw’r cynllun yn rhoi digon o eglurder ynghylch pwy sy’n gyfrifol am ysgogi trawsnewid, yn enwedig wrth ddatblygu gwasanaethau triniaeth a diagnostig newydd a/neu ranbarthol a moderneiddio gwasanaethau gofal a gynlluniwyd?

>>>A yw'r targedau a'r amserlenni yn y cynllun yn ddigon manwl, mesuradwy, realistig a chyraeddadwy?

>>>A yw'n ddigon clir pa arbenigeddau a fydd yn cael eu blaenoriaethu/cynnwys yn y targedau?

>>>A ydych yn rhagweld unrhyw amrywiad ar draws byrddau iechyd o ran cyflawni’r targedau fesul arbenigedd?

>>>A oes digon o gyllid refeniw a chyfalaf ar gael i gyflawni’r cynllun, gan gynnwys, lle bo angen, fuddsoddi mewn seilwaith ac ystadau a’u hehangu er mwyn sicrhau bod capasiti’r gwasanaethau yn bodloni’r galw?

>>>A yw’r cynllun yn ddigon clir ynglŷn â sut y dylai cyllid ychwanegol ar gyfer trawsnewid gofal a gynlluniwyd gael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol, a sut y caiff defnydd ac effaith y cyllid ei eu holrhain a sut yr adroddir ar hynny?

>>>A yw’r cynllun yn mynd i’r afael yn ddigonol â phwysau ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cadw, recriwtio, a chefnogi staff i weithio’n hyblyg, datblygu eu sgiliau a gwella o drawma’r pandemig?

>>>A oes digon o eglurder ynglŷn â sut y bydd offer a data digidol yn cael eu datblygu a'u defnyddio i ysgogi darpariaeth gwasanaethau a rheoli amseroedd aros yn fwy effeithlon?

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion oedd dydd Gwener 10 Mehefin 2022.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech roi’r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Sut i rannu eich barn

Gallwch rannu eich barn yn electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu ei anfon drwy'r post at:

 

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,

Senedd Cymru,

Caerdydd,

CF99 1SN

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565