Ymgynghoriad

y Bil Awtistiaeth (Cymru) - Datblygu'r Bil

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Dyma’r ymgynghoriad cyntaf i’w gynnal gan Paul Davies AC ynghylch y cysyniad cyffredinol o Fil Awtistiaeth (Cymru) arfaethedig. Bydd Paul Davies AC yn defnyddio’r ymatebion a ddaeth i law i lywio ymgynghoriad dilynol ar destun Bil drafft.

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 30 Awst 2017 a 20 Tachwedd 2017.

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Mae’n bosibl y caiff gwybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan Aelodau’r Cynulliad, gan staff cymorth neu gan staff Comisiwn y Cynulliad at ddibenion datblygu’r Bil, hyrwyddo’r effaith y bwriedir i’r Bil ei chael, a gwaith craffu dilynol ar y Bil.

Mae’n bosibl y caiff eich enw, eich manylion cyswllt (os ydych yn ymateb yn eich rôl broffesiynol) a’ch ymateb llawn eu cyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac o bosibl mewn cyhoeddiadau neu ddeunydd cyhoeddusrwydd sy’n dilyn. Mae’n rhaid i chi wneud yn glir yn eich ymateb os ydych am i’r wybodaeth hon fod yn ddienw.

Efallai y defnyddir eich manylion cyswllt eto os bydd cyfleoedd eraill yn codi i ymgysylltu â’r gwaith o ddatblygu’r Bil neu graffu arno. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, cysylltwch ag Ymgynghoriad.BilAwtistiaeth@cynulliad.cymru

I weld rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gweler y polisi preifatrwydd llawn.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Ymgynghoriad - Biliau Aelod
Sened Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN

Email: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565