Ymgynghoriad

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Roedd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymgymryd â gwaith craffu ar ôl deddfu er mwyn asesu'r modd y caiff Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ei roi ar waith a'i weithredu, yn benodol, drwy:

  • asesu i ba raddau y mae'r amcanion a bennwyd ar gyfer y Mesur yn cael eu cyflawni;
  • nodi a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu neu arfer da y gellir ei rannu o wneud a gweithredu'r Mesur a'r is-ddeddfwriaeth a chanllawiau cysylltiedig; ac
  • asesu a yw'r ddeddfwriaeth wedi rhoi gwerth am arian, ac a fydd yn parhau i wneud hynny.

 

Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, roeddwn yn bwriadu ystyried canfyddiadau perthnasol yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol