Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Ffederasiwn Sefydliad y Merched Sir Forgannwg – digwyddiad i gyfnewid Baton y Canmlwyddiant

Dyddiad: Dydd Mawrth 26 Awst 2014

Amser: 11.00 - 12.00

Lleoliad: Oriel

Disgrifiad: Mae Sefydliad y Merched yn dathlu ei Ganmlwyddiant yn 2015, ac fel rhan o’r dathliadau, ers mis Chwefror 2014 mae baton yn cael ei basio o amgylch Cymru a Lloegr. Bydd y baton yn cyrraedd pen ei daith yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Sefydliad y Merched yn Neuadd Albert, Llundain ym mis Mehefin 2015. Bydd aelodau Ffederasiwn Sir Forgannwg o’r Sefydliad yn cael y baton rhwng 19 a 26 Awst 2014, a hoffent ddod ag ef i’r Senedd ar fore dydd Mawrth, 26 Awst fel rhan o’i daith o amgylch y Sir, cyn ei gyflwyno i Ffederasiwn Gwent mewn lleoliad arall yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Agored i’r cyhoedd: Na

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr