Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Cwmpas / Google: Dyfodol Cynaliadwy

Dyddiad: Dydd Mercher 17 Ionawr 2024

Amser: 09.30 - 16.30

Lleoliad: Pierhead

Disgrifiad: Rydym am gefnogi busnesau yng Nghymru i fod yn fwy cynaliadwy: o ran eu hirhoedledd gweithredol ac o ran eu hymroddiad i gefnogi’r agenda sero net. Mae defnyddio teitl mor agored â hyn yn galluogi’r cyfranogwyr i benderfynu pa elfen o ‘gynaliadwyedd’ y maen nhw am edrych arni. Er enghraifft, gall busnesau bach a grwpiau trydydd sector fod am ddefnyddio’r digwyddiad i edrych ar sut i wneud eu mentrau’n fwy cynaliadwy drwy fod yn fwy effeithlon a chosteffeithiol, a gall corfforaethau mwy eu maint fod am ganfod ffyrdd o gyflawni eu Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Deddf LlCD neu nodau budd cymunedol mewn modd sy’n cael yr effaith fwyaf.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr