Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Coffa Gwrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd

Dyddiad: Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Pierhead

Disgrifiad: Dyma ddigwyddiad i ddathlu a choffa Gwrthryfel y Siartwyr ym 1839 (a adwaenir hefyd fel Terfysg Casnewydd), sef y gwrthryfel arfog olaf ar raddfa fawr ym Mhrydain Fawr, a carreg filltir bwysig ar y ffordd tuag at ddemocratiaeth fodern. Brwydrai’r Siartwyr dros hawl y werin bobl i gael dweud eu dweud, a roedd ganddynt chwe phrif alwad, a elwir hefyd yn chwe phwynt y Siartr. Penllanw Terfysg Casnewydd ym 1839 oedd i dros 5,000 o weithwyr cyffredin ymgynnull yng nghymoedd y de ac ymdeithio i Gasnewydd ar noson oer ym mis Tachwedd. Mae rhai’n credu bod y Siartwyr yn gwrthdystio’n heddychlon yn erbyn anghyfiawnderau ac yn gofyn am i’w cyd-Siartwyr gael eu rhyddhau wedi iddynt gael eu haresti a’u cadw’n garcharorion. Mae eraill yn credu eu bod yn rhan o wrthryfel arfog. Mae’r llwybr hwn, a’r placiau gwybodaeth ar ei hyd, yn dweud mwy am y Siartwyr a’r pethau echrydus a ddigwyddodd yng Nghasnewydd ar ddydd Llun 4 Tachwedd 1839.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr