Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Derbyniad y Comisiwn Etholiadol

Dyddiad: Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd

Disgrifiad: Bydd cyfarfod o fwrdd y Comisiwn yn cael ei gynnal yn y Senedd ar yr un diwrnod, ac mae Comisiynwyr yn awyddus i fanteisio ar y cyfle i ymgysylltu ag Aelodau o’r Senedd / mae Comisiynwyr yn awyddus i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ynghylch materion sy’n ymwneud ag etholiadau yng Nghymru. Mae newidiadau mawr o’n blaenau fel pleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol, pleidiau ac ymgyrchwyr wrth i Ddeddf Etholiadau 2022 barhau i gael ei gweithredu, ynghyd â deddfwriaeth newydd i gyflawni’r broses o Ddiwygio’r Senedd a diwygiadau ehangach Llywodraeth Cymru o ran gweinyddu etholiadol. Byddwn yn clywed gan y Fonesig Elan Closs Stephens DBE, ac eraill ynghylch gwaith diweddar y Comisiwn yng Nghymru a sut y byddwn yn parhau i gefnogi pleidleiswyr a’r gymuned etholiadol yng Nghymru yn y dyfodol.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr