Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Stondin y Prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr – arloesi i ofalwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Dyddiad: Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Yr Oriel, Y Senedd

Disgrifiad: Mae’r prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr yn trawsnewid y gydnabyddiaeth, y parch a’r gefnogaeth a gaiff gofalwyr di-dal mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy’n cydweithio i gyflawni’r prosiect, yn gwahodd Aelodau, staff a’r cyhoedd i ddysgu am adnoddau’r prosiect, ynghyd â hyfforddiant a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar ofalwyr ar draws Cymru sy’n gwneud cymaint i ofalu am bobl sy’n sâl, yn hŷn neu’n anabl.

Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr