Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Dathlu cyfraniad amgueddfeydd Cymru at hawliau diwylliannol, gwrth-hiliaeth a llesiant
Dyddiad: Dydd Iau 19 Hydref 2023
Amser: 10.00 - 15.00
Lleoliad: Y Neuadd, Y Senedd
Disgrifiad: Digwyddiad i hyrwyddo a dathlu amgueddfeydd o bob cwr o Gymru a’r rôl y maent yn ei chwarae wrth gefnogi cydraddoldeb, llesiant cymunedol a chydlyniant cymunedol. Hefyd, bydd y digwyddiad yn trafod sut y mae amgueddfeydd ledled y genedl yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod hanes a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael eu cynrychioli a sut y mae amgueddfeydd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Agored i’r cyhoedd: Mae presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr